Skip to Main Content
Dewch i ymuno ar tim

Gweithiwr Cymorth Ieuenctid

Oes gennych chi Dystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid ac wedi
cofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid? Os ydych
yn dymuno datblygu eich sgiliau a’ch profiad o weithio gyda phobl ifanc, fel
Gweithiwr Cymorth Ieuenctid cewch eich cefnogi fel aelod o’r Tîm Ieuenctid a
Chymuned o fewn MonLife i weithio gyda phobl ifanc i hwyluso eu datblygiad
personol, cymdeithasol ac addysgol. Fel rhan o dîm byddwch yn paratoi, cynllunio a
chyflwyno gwaith ieuenctid i bobl ifanc yn Sir Fynwy i’w galluogi i ddatblygu mewn
modd holistic a helpu i’w galluogi i ddatblygu eu llais, dylanwad a’u lle mewn
cymdeithas ac i gyrraedd eu potensial llawn.

Cyfeirnod Swydd: YS006

Gradd: Band F £29777.00 - £32076.00

Oriau: Patrymau sifftiau hyblyg, yn ystod yr wythnos, am o leiaf 16 awr hyd at 37 awr yr wythnos i ddiwallu anghenion pobl ifanc a'r Gwasanaeth. Uchafswm o 3 noson yr wythnos.

Lleoliad: Prif weithle i’w gytuno a all gynnwys y Fenni, Brynbuga, Cil-y-coed neu Drefynwy a all newid yn y dyfodol os oes angen i leoliad y gwasanaeth symud.

Dyddiad Cau: 05/07/2024 12:00 pm

Dros dro: Contract tymor penodol am flwyddyn o ôl-ddechrau.

Gwiriad DBS: Cafodd penodiad i’r swydd hon ei eithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac mae’n amodol ar y gwiriad DBS dilynol: Gwiriad Estynedig gyda Rhestr Gwahardd rhag Gweithio gyda Phlant