Paul Matthews, Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy
“Gyda’r ymdeimlad dyfnaf o dristwch, rwyf yn rhannu’r newyddion am farwolaeth y cyn Gynghorydd Sir Sheila Woodhouse. Roedd Sheila wedi bod yn sâl ers rhai misoedd a hunodd yn heddychlon yr wythnos yma.Roedd Sheila yn fenyw anhygoel. Gwasanaethodd fel Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy ar ddau achlysur gwahanol, sydd yn anrhydedd prin. Darparodd arweinyddiaeth drwy gyfnodau mwyaf heriol y Pandemig COVID. Sylweddolodd Sheila mai amddiffyn bywyd yr adeg honno oedd y peth pwysicaf a bod yn rhaid i bethau eraill aros. Roedd hi’n ffynhonnell sylweddol o gryfder a chefnogaeth i mi a chymaint o bobl eraill.
Roedd Sheila yn aelod o nifer o Bwyllgorau’r Cyngor a bu’n rhan o fwy o weithgarwch gwirfoddol nag sydd yn bosib ei gofnodi. Roedd Sheila wedi ymgymryd â’i rolau o fewn y Cyngor gyda diwydrwydd a gras. Roedd hi bob amser yn ddygn ond byth yn anhyblyg. Roedd ganddi feddwl agored ac roedd ganddi ddiddordeb bob amser ym marn eraill.
Roedd Sheila yn gwybod beth oedd ystyr bod yn Gynghorydd Sir Fynwy. Roedd hi’n caru ei Ward a’i thref, Y Fenni gydag angerdd ond roedd bob amser yn deall bod yn rhaid iddi weld y darlun ehangach ar adegau. Roedd hi bob amser yn barod i wneud hynny. Roedd hi’n dawel, yn garedig, yn ofalgar ac yn groesawgar. Roedd hi gystal llysgennad ag a gawsom erioed, yn arbennig yn ei blynyddoedd fel Dinesydd Cyntaf, ac roedd yn teimlo cymaint o anrhydedd yn ymgymryd â’r rôl hon.
Cefais y pleser o weithio gyda Sheila yn bersonol. Roeddwn i wrth fy modd. Cefais weld cynhesrwydd gwraig arbennig iawn. Yn fwy na hynny, cefais weld pa mor broffesiynol oedd, gyda llawer o hyn yn deillio o yrfa flaenorol yn Swyddfa’r Post. Roedd gan Sheila safonau ac roeddech chi bob amser eisiau cyrraedd y safonau yma. Ar sawl achlysur ar ôl cadeirio cyfarfod o’r Cyngor, byddai Sheila yn gofyn i mi “A wnes i wneud yn iawn”. Roedd hi eisiau gwneud ei gorau. Fy ateb bob amser oedd “roeddech chi’n berffaith” – dyna sut oeddwn i’n teimlo.
Mae golau llachar yn hanes ein sefydliad wedi pylu rhywfaint heddiw ond nid yw wedi diffodd. I’r rhai ohonom y cyffyrddodd Sheila â hwy, bydd ei chynhesrwydd yn aros gyda ni yn ein calonnau. Gobeithio y caiff Sheila orwedd mewn hedd.
Rwyf am drosglwyddo cydymdeimlad ein sefydliad i Chris, gŵr Sheila ac i’w theulu a’i ffrindiau. Byddwn yno i’w cefnogi mewn unrhyw ffordd y dymunant dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”