Skip to Main Content

Ar y 10fed Rhoddwyd cymeradwyaeth ym mis Ebrill 2024 ar gyfer Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) ar gyfer Rheolaethau Cŵn yn Sir Fynwy. Bydd y Gorchymyn newydd hwn yn berthnasol yn Sir Fynwy am gyfnod o 3 blynedd, o’r 1af Mehefin 2024 i’r 31ain Mai 2027.

Mae’r Gorchymyn yn cyflwyno 5 math o gyfyngiad. Mae’n drosedd mynd yn groes i unrhyw un o’r cyfyngiadau hyn:

Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gi lanhau os yw’r ci yn baeddu mewn unrhyw fan cyhoeddus yn y sir.

Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gi, mewn unrhyw fan cyhoeddus yn y sir, gael modd priodol (e.e. bag baw ci) i godi unrhyw garthion gan y ci hwnnw a dangos bod ganddynt fag/bagiau os gofynnir iddynt wneud hynny gan swyddog awdurdodedig.

Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gi, mewn unrhyw fan cyhoeddus yn y sir, roi’r ci ar dennyn o ddim mwy na dau fetr o hyd, pan fydd swyddog awdurdodedig yn eu cyfarwyddo i wneud hynny, lle ystyrir nad yw’r ci dan reolaeth, neu’n achosi braw neu ofid, neu er mwyn atal niwsans.

Mannau cyhoeddus penodol yw’r rhain, a nodwyd drwy ymgynghori, lle mae angen cadw ci ar dennyn o ddim mwy na dau fetr o hyd. Mae 20 wedi’u rhestru yn y GDMC ac fe’u nodir drwy gynlluniau lleoliad.

Mannau cyhoeddus penodol, lle mae cŵn wedi’u heithrio. Mae 180 wedi’u rhestru yn y GDMC ac fe’u nodir drwy gynlluniau lleoliad. Mae’r rhain wedi cael eu nodi drwy ymgynghori fel rhai sy’n gofyn am ddiogelwch pellach rhag baw cŵn oherwydd y prif ddefnydd o’r ardal. Mae’r rhain yn bennaf yn gaeau chwaraeon wedi’u marcio, ardaloedd chwarae i blant, tiroedd ysgolion a chanolfannau hamdden.

Bydd arwyddion rhybuddio’n cael eu gosod mewn lleoliadau priodol ar draws y sir, gan gynnwys pob un o’r ardaloedd newydd ar gyfer Eithrio ac Ar Dennyn Yn Unig.

Beth yw’r gosb am fethu â chydymffurfio â gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus ar reoli cŵn?

Bydd Sir Fynwy yn cynnig hysbysiad cosb benodedig o £100 am droseddau sydd wedi’u cynnwys o fewn y rheolaethau gorchmynion diogelu mannau cyhoeddus. Bydd methu â thalu’r hysbysiad cosb benodedig yn arwain at yr awdurdod yn cymryd camau cyfreithiol, a allai arwain at uchafswm dirwy lefel 3 ar y raddfa safonol, sydd ar hyn o bryd yn £1,000.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus ar reoli cŵn, cysylltwch â’r isod:

Iechyd yr Amgylchedd,
Cyngor Sir Fynwy,
Neuadd y Sir,
Y Rhadyr
Brynbuga
NP15 1GA
Rhif Ffôn 01873 735420 environmentalhealth@monmouthshire.gov.uk