Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gweithio gyda phartneriaid lleol i wella diogelwch ar y lôn sy’n arwain at faes parcio Llanwenarth wrth i ymwelwyr fwynhau Mynydd Pen-y-fâl yr haf hwn.

Yn gweithio mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Tref y Fenni, bydd ymwelwyr yn sylwi ar newidiadau i’r llwybr sy’n nesáu at faes parcio Llanwenarth.

O’r 17eg Mai bydd cyfyngiadau parcio yn cael eu cyflwyno ar y ffordd hyd at faes parcio Llanwenarth, gyda llinellau melyn dwbl yn arwain at y maes parcio dynodedig. Bwriad y mesurau hyn yw dileu achosion o barcio amhriodol ar hyd y lôn a gwella mynediad i bawb sy’n defnyddio maes parcio’r mynydd.

Cyflawnwyd hyn diolch i arian o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (£2,800), a £3,000 ychwanegol yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Tref y Fenni a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae pob partner eisiau i ymwelwyr a phobl leol fwynhau’r mynydd hardd hwn a gallu cael mynediad ato mewn modd diogel. Nod y newidiadau yw cynorthwyo hyn ac atal ymwelwyr rhag parcio ar hyd y lôn gul er mwyn ei gwneud yn fwy diogel i bawb. Maenthefyd yn gwarchod y mynydd drwy wneud yn siŵr nad yw ymwelwyr yn parcio ar y glannau ger y lôn.

Os ydych yn bwriadu ymweld yr haf hwn neu dros  ddiwrnodau Gŵyl y Banc sydd i ddod, cofiwch gynllunio ymlaen llaw. Fel y gwyddom oll, gall y tywydd yng Nghymru newid yn gyflym. Gwnewch yn siŵr eich bod yn pacio ar gyfer pob tywydd a bod gennych esgidiau addas. Cadwch at y llwybrau ag arwyddion ac ewch â’ch sbwriel adref neu i’r bin agosaf.

Bydd y bartneriaeth waith hefyd yn gweld system teledu cylch cyfyng newydd yn cael ei gosod i fonitro defnydd ac atal unrhyw achosion posibl o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y mynydd. Hoffem atgoffa ymwelwyr na ddylent gynnau barbeciws na choelcerthi ar unrhyw adeg o’r flwyddyn ar unrhyw ran o’r mynydd. Gall tanau fynd allan o reolaeth yn gyflym a dinistrio cynefinoedd a bywyd gwyllt prin, gan beryglu eraill a all fod ar y mynydd ar yr un pryd.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Bydd y cyfyngiadau parcio newydd yn sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr yn gallu aros yn ddiogel wrth iddynt ymweld â Mynydd Pen-y-fâl. Diolch i’n partneriaid am eu cyfraniad i’r newidiadau.

Pan fyddwch yn ymweld â Sir Fynwy, helpwch ni i’w gadw’n brydferth drwy roi unrhyw sbwriel yn y biniau a ddarperir, neu fynd â’r sbwriel adref.”

Bydd y bartneriaeth waith rhwng gwahanol awdurdodau yn sicrhau y gall pawb fwynhau’r tirweddau hardd sydd ar garreg drws ein trefi a’n pentrefi.

Ledled y Sir, mae gennym rai o’r tirweddau a’r llwybrau cerdded harddaf yn y wlad. Yn y Fenni yn unig, gall ymwelwyr gael mynediad i nifer o wahanol lwybrau o’r dref. Os ydych yn chwilio am daith gerdded fwy hamddenol, beth am fynd am dro i fyny’r Deri, Mynydd Llanwenarth, neu Fro’r Santes Fair? Gyda llwybrau troed wedi’u marcio’n dda a theithiau cerdded cylchol ar gyfer y rhan fwyaf o alluoedd, bydd y coetir hynafol yn darparu golygfeydd ar draws Dyffryn Wysg a draw i Betws a Phwll Glo’r Goedwig. I gael rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded sydd ar gael ar draws Sir Fynwy ewch i https://www.visitmonmouthshire.com/things-to-do/walking

Tags: