Ar ddydd Mercher, 15fed Mai, bydd Hyb Cymunedol a Llyfrgell Cas-gwent yn cynnal diwrnod ymwybyddiaeth a gwybodaeth am ddementia.
Bydd y digwyddiad, sydd i’w gynnal rhwng 10am a 2pm, yn galluogi trigolion i ddysgu mwy am y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael yn y Sir.
Bydd swyddogion o dîm Technoleg Gynorthwyol Cyngor Sir Fynwy yn arddangos y gwaith arloesol y maent yn ei wneud i wella bywydau pobl gyda thechnoleg newydd. Bydd Gwasanaethau Amgueddfa yn arddangos eu gweithgareddau sesiwn sy’n gyfeillgar i ddementia a bydd Gwasanaethau Llyfrgell yn arddangos detholiad o lyfrau dementia a blychau atgofion sydd ar gael i’w benthyca.
Bydd swyddogion y Llyfrgell hefyd ar gael i rannu gwybodaeth ac ateb cwestiynau am eu cyrsiau Addysg Oedolion a’r sesiynau TG un-i-un sydd ar gael i drigolion.
Byddwn hefyd yn croesawu partneriaid o bob rhan o’r gymuned i’r digwyddiad.
Bydd cynghorwyr lleol o Gymdeithas Alzheimer’s yn bresennol i roi gwybodaeth ac ateb cwestiynau gan drigolion. Bydd Age Cymru Gwent hefyd wrth law i ateb cwestiynau.
Drwy gydol y digwyddiad, bydd Hyb Cymunedol a Llyfrgell Cas-gwent yn codi arian i Gymdeithas Alzheimer’s drwy roddion ar gyfer te, coffi a chacennau. Bydd ymwelwyr hefyd yn cael y cyfle i brynu bathodynnau a thlysau a wnaed gan swyddogion yr Hyb Cymunedol a’r grŵp Gweu a Sgwrsio.
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymroddedig i helpu ein holl drigolion. Mae hwn yn gyfle perffaith i drigolion siarad â swyddogion a chael gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt, eu teuluoedd a phobl y maent yn gofalu amdanynt.”
Os hoffech ddysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael yn Sir Fynwy, dewch draw ar y 15fed o Fai i siarad â swyddogion.
Os hoffai unrhyw sefydliadau fod yn rhan o’r digwyddiad, e-bostiwch chepstowhub@monmouthshire.gov.uk.
Tags: Chepstow, community, Monmouthshire, news