Tags: MonmouthshireMae’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby, wedi cysylltu â’r Gwir Anrhydeddus Mark Harper AS, sef Aelod Seneddol Fforest y Ddena a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth.
Y cais a anfonwyd ar ran Cyngor Sir Fynwy yw bod y cyfyngiadau traffig un lôn bresennol yn cael eu hadleoli i’r dwyrain o gylchfan Llandidiwg i leddfu traffig ar yr A40 a Phont Gwy. Roedd y cais hefyd yn cynnwys scrhau nad yw gwaith yn y dyfodol ar yr A40 yn Lloegr yn cynnwys llwybrau dargyfeirio ar Heol Henffordd drwy Buckholt neu dros Bont Gwy a Ffordd Staunton.
Ychwanegodd y Cynghorydd Maby, “Rydym yn cydnabod bod angen monitro’r tirlithriad ar yr A40 ac asesiad geodechnegol, ond rydym yn galw ar National Highways a Llywodraeth y DU i flaenoriaethu’r gwaith hwn i ailagor un o’r prif lwybrau rhydwelïol i Gymru yn llawn. Mae’r buddsoddiad mewn seilwaith sy’n cael ei wneud gan Dŵr Cymru yn Nhrefynwy i’w groesawu, ond ynghyd â gwaith ar yr A40, mae’n rhoi pwysau ychwanegol ar fusnesau yn yr ardal. Mae Trefynwy ar agor i fusnes, ac rydym yn galw ar bawb i ymweld a chefnogi ein tref fywiog a siopa’n lleol.”