Nodyn pwysig:
Os ydych yn rhoi gwybod am broblem am y tro cyntaf, fel ailgylchu a gwastraff, e.e. casgliad bin a fethwyd, gofyn am fin newydd, goleuadau stryd, priffyrdd, e.e. draen wedi’i dagu ac ati, defnyddiwch y ffurflen berthnasol os oes un ar gael yn y categori perthnasol, os na, yna gallwch gwblhau’r ffurflen ‘Cysylltu â Ni’ neu ‘Priffyrdd Arall’.
Os dymunwch gwyno, ein canmol neu roi sylwadau am wasanaeth, gallwch wneud hynny drwy:
- Drwy lenwi a dychwelyd y ffurflen adborth cwsmeriaid i ni drwy’r cyfeiriad islaw
- Drwy ffonio: 01633 644644
- Drwy ysgrifennu atom:
Tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid
Cyngor Sir FynwyNeuadd y Sir
Y Rhadyr
Brynbuga
Sir Fynwy
NP15 1GA
Os oes gennych gŵyn byddwn yn ceisio delio gyda hi yn syth. Os na allwn drin y gŵyn yn syth, byddwn yn:
- Anfon cydnabyddiaeth atoch o fewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn eich cwyn
- Dweud wrthych pwy sy’n edrych ar eich cwyn
- Dweud wrthych pryd y byddwn yn anfon ateb atoch am eich cwyn
Edrychwch ar ein Polisi Cwynion a Chanmoliaeth yr Awdurdod Cyfan Gweithdrefn Cwynion a Chanmoliaeth yr Awdurdod Cyfan a’n Polisi Awdurdod Cyfan parthed Gweithredoedd Annerbyniol gan Achwynwyr
Gwasanaethau Cymdeithasol
Os nad ydych yn hapus am y gwasanaeth a drefnwn ar eich cyfer mewn Gofal Cymdeithasol neu am y ffordd y cawsoch eich trin, gallwch gwyno i’r tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.
Ffurflen Adborth Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau – Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Polisi Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol Awst 2014
Cwynion Ysgol
Dylid anfon cwynion am ysgolion at Bennaeth yr ysgol yn y lle cyntaf. Os yw’r cwyn am Bennaeth yr ysgol, yna dylid anfon y gŵyn at Gadeirydd y Llywodraethwyr.
Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Fel arfer ni fydd yr Ombwdsman yn edrych ar eich cwyn nes ei bod wedi bod drwy’r weithdrefn cwynion mewnol.
Gallwch gysylltu ag Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5LJ
Rhif Ffôn Ymholiadau: 0300 790 0203
Gwefan: www.ombudsman.wales
Cwynion Ynghylch Cynghorwyr
Os ydych eisiau gwneud cwyn am gynghorydd ewch i’r dudalen hon os gwelwch yn dda