Mae’r gwaith o gwblhau adeiladu ysgol newydd 3-19 Brenin Harri’r VIII yn mynd i gael ei oedi yn sgil materion gweithgynhyrchu sydd y tu hwnt i reolaeth yr Awdurdod Lleol a’n contractwr, Morgan Sindall. Y bwriad gwreiddiol oedd cwblhau a throsglwyddo’r ysgol yn Nhachwedd 2024.
Rydym yn gweithio’n ddiwyd i ddatrys y mater cyn gynted â phosibl a byddwn yn rhoi dyddiad trosglwyddo newydd i chi cyn gynted ag y caiff ei gadarnhau.
Rydym am achub ar y cyfle hwn i bwysleisio bod yr oedi yn amlygu’r broses drylwyr a chadarn sydd mewn lle i wirio ansawdd a sicrhau bod gan yr ysgol y cyfleusterau o’r radd flaenaf a ddisgwylir gan brosiect mor sylweddol.
Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch dealltwriaeth a byddwn yn hysbysu’r holl randdeiliaid a rhieni am unrhyw ddatblygiadau pellach.
Tags: Monmouthshire, School