Skip to Main Content

Ar gyfer Ceisiadau am Drwydded Preswylwyr:

Prawf Preswylio

Byddwn yn derbyn un o’r dogfennau a restrir isod.  Rhaid i hyn ddangos yr enw a’r cyfeiriad fel y darperir yn y cais.

  • Bil Treth Gyngor neu Fil Dŵr diweddaraf 
  • Bil Cyfleustodau o’r 3 mis diwethaf
  • Trwydded yrru gyfredol yn dangos cyfeiriad.
  • Cytundeb Tenantiaeth cyfredol wedi’i lofnodi gennych chi a’ch landlord.
  • Llythyr Cwblhau gan Gyfreithiwr os yw eich eiddo wedi’i brynu yn y mis diwethaf.

Dogfennau Prawf o Berchnogaeth Cerbyd

Byddwn ond yn derbyn copi o un o’r dogfennau a restrir isod.  Rhaid i ddogfennau a ddarperir dangos enw a chyfeiriad yr un ymgeisydd a rhif cofrestru’r cerbyd â’r cais.

  • Dogfen Cofrestru Cerbydau (V5C)
  • Cytundeb Llogi / Prydles
  • Bil Gwerthu Swyddogol (os yw’r cerbyd wedi’i brynu yn y mis diwethaf)
  • Os yn gerbyd cwmni: byddwn angen llythyr gan eich cyflogwr ar ben-llythyr y cwmni, yn cadarnhau bod y cerbyd yn eiddo/ar brydles ganddo ac mai chi yw unig geidwad/defnyddiwr y cerbyd. Byddwn hefyd angen copi o’r ddogfen gofrestru/cytundeb prydles cerbyd gyda hyn. 

Ar gyfer Ceisiadau am Drwydded Tymor:

Dogfennau Prawf o Berchnogaeth Cerbyd

Byddwn ond yn derbyn copi o un o’r dogfennau a restrir isod:

  • Dogfen Cofrestru Cerbydau (V5C)
  • Tystysgrif Yswiriant Modur cyfredol
  • Cytundeb Llogi / Prydles
  • Bil Gwerthu Swyddogol (os yw’r cerbyd wedi’i brynu yn y mis diwethaf)
  • Os yn gerbyd cwmni: byddwn angen llythyr gan eich cyflogwr ar ben-llythyr y cwmni, yn cadarnhau bod y cerbyd yn eiddo/ar brydles ganddo ac mai chi yw unig geidwad/defnyddiwr y cerbyd. Byddwn hefyd angen copi o’r ddogfen gofrestru/cytundeb prydles cerbyd gyda hyn. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich dogfennau ategol, anfonwch e-bost atom yn carparking@monmouthshire.gov.uk