C1: A fydd yr arbedion i ailgartrefu pobl yn gyflym yn cynyddu digartrefedd ar ein strydoedd?
Byddwn yn ceisio cynnig llety mewnol amgen, cynaliadwy o ansawdd gwell i’r rhai sydd eisoes mewn Gwely a Brecwast dros dro ac felly mae’n annhebygol y bydd cynnydd mewn digartrefedd ar y strydoedd. Drwy sicrhau bod hyn yn gyson â’r cynnig cyllideb hwn ac fel rhan o’n gwasanaeth digartrefedd ehangach, rydym yn darparu gwasanaeth allgymorth pendant sy’n ceisio mynd i’r afael â chysgu allan. Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu i hwyluso mynediad at lety a chymorth. Bydd yn wasanaeth y byddwn yn parhau i’w ariannu. Rydym yn rhagweld, gan y bydd y cynnig mewnol hefyd yn cynnwys darpariaeth cymorth cofleidiol ar y safle, y byddwn yn gallu helpu unigolion i ddod o hyd i opsiynau mwy cynaliadwy wrth symud ymlaen a helpu i leihau’r risg o golli llety yn y dyfodol.
C2: A ellid darparu bagiau gwastraff bwyd i’r rhai mwyaf agored i niwed?
Gallem ddarparu bagiau bwyd drwy’r banciau bwyd yn rhad ac am ddim i ddiwallu anghenion y rhai mwyaf agored i niwed yn y gymuned. Mae darparu bagiau gwastraff bwyd yn rhad ac am ddim ar draws pob safle gydag asesiad o feini prawf addas ar gyfer y rhai sy’n agored i niwed neu’r rhai nad ydynt yn agored i niwed yn fwy cymhleth ac mae defnyddio’r banciau bwyd yn opsiwn da.
C3: Soniwyd y bydd asedau presennol y Cyngor yn lletya pobl ddigartref. Pa asedau? Pam nad yw’r rhain wedi cael eu defnyddio o’r blaen?
Rydym eisoes yn edrych i wneud defnydd o rai bythynnod sydd wedi dod ar gael ac sy’n addas fel rhan o’n portffolio ffermydd sirol presennol. Rydym hefyd yn adolygu ein hasedau a’n heiddo sydd ar gael ar hyn o bryd ac sy’n dod ar gael wrth i ni eu gadael a’u bod yn wag.
C4: Yn dilyn derbyn cynnig cyflog Llywodraeth Cymru i undebau athrawon ar gyfer athrawon a staff ysgolion am y flwyddyn hon, a all y Cyngor gadarnhau y bydd y codiadau hyn yn cael eu hariannu’n llawn gan y Cyngor o’r arian a ddarparwyd gan y Llywodraeth, ac na fydd cymryd o gyllidebau ysgolion sydd eisoes dan bwysau?
Mae’r gyllideb yn cydnabod y dyfarniadau cyflog ar gyfer ein staff addysgu a’n staff ysgol nad ydynt yn addysgu, sef cyfanswm o £2.2m yn seiliedig ar ein rhagdybiaethau dyfarniadau cyflog ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wrth reoli dros £20m o bwysau o ran costau ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae angen i’r Cyngor ddod o hyd i £8.4m o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd ochr yn ochr â chynnydd mewn cyllid, y dreth gyngor a ffioedd a thaliadau. Gofynnir i ysgolion wneud cyfraniad tuag at arbedion effeithlonrwydd cyffredinol y Cyngor o’u cyllidebau ysgolion unigol (CYU). Gwerth y cyfraniad hwn yw £835,000. Rydym wedi talu tua dwy ran o dair o gostau’r dyfarniad cyflog. Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn effeithio ar ysgolion a Chyrff Llywodraethu sy’n dal y cyllidebau dirprwyedig hyn, ac a fydd yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynghylch staffio ac adnoddau yn eu hysgolion.
Mewn perthynas â’r cynnig cyflog ar gyfer blwyddyn Academaidd 2023/24, rydym wedi trosglwyddo unrhyw gyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i’r dyfarniad cyflog athrawon gwell a negodwyd.
Q5: A allwch chi egluro’r newid yn ym maes gwasanaethau oedolion os gwelwch yn dda?
Er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni arbedion arfaethedig mewn cyd-destun heriol o alw cynyddol, mae’r gwasanaeth yn adeiladu ymhellach ar y newid a wnaed y llynedd o ran arferion, gan gynnwys:
· Cefnogi ymarferwyr i gael sgyrsiau ag unigolion a theuluoedd i archwilio sut y gall cryfderau personol, teuluol a chymunedol helpu i gefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau personol
· Sicrhau bod cynlluniau gofal a chymorth yn cael eu hadolygu mewn modd amserol
· Rhannu penderfyniadau a pherchnogaeth ar asesiadau a chynlluniau gofal ar lefel uwch, sy’n cefnogi ymarferwyr ac yn gwella cysondeb o ran sut rydym yn ymateb i anghenion pobl
· Datblygu arfer yn ymwneud â defnyddio technoleg gynorthwyol i gefnogi annibyniaeth pobl
· Datblygu cysylltiadau cryfach â thai a chymorth yn y gymuned i sicrhau bod annibyniaeth hirdymor pobl yn cael ei hybu i’r eithaf
· Sicrhau bod gwasanaethau ailalluogi ar gael pan fo pobl eu hangen ar ôl salwch neu amser yn yr ysbyty
C6: Mae’r dreth gyngor yn cynyddu 7.5%, ond mae yna hefyd gynllun i newid bandio ar y tai. Sut maen nhw’n disgwyl i bobl ag incwm sefydlog (e.e. pensiynwyr) ddod o hyd i’r arian pan nad ydynt yn derbyn budd-daliadau i dalu’r gost?
Yn seiliedig ar eiddo Band D cyfartalog, mae’r cynnydd arfaethedig o 7.5% yn y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cyfateb i £9.78 y mis ychwanegol, ac rydym yn cydnabod ei fod yn gost ychwanegol i aelwydydd.
Mae amrywiaeth o gymorth ar gael i helpu, er enghraifft, Gostyngiad Person Sengl a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (CTRS) a byddem yn annog aelwydydd i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer y cymorth hwn. Lle nad yw hyn yn opsiwn, mae aelwydydd yn gallu lledaenu’r gost dros gyfnod o 12 mis yn hytrach na’r 10 mis safonol. Unwaith eto, byddem yn annog trethdalwyr i gysylltu i wneud y trefniadau hyn.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar gynigion diwygio’r dreth gyngor a allai gynnwys ymarfer ailbrisio a fyddai’n newid y bandiau. Mae’n rhy gynnar felly i bennu’r effaith a gaiff y diwygiadau hyn ar aelwydydd Sir Fynwy.
C7: Sut gall Cyngor Trefynwy ystyried adeiladu pont droed dros Afon Gwy am gost mor uchel i leiafrif o bobl? Oni fyddai’n well gwario’r arian ar bethau eraill?
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer ein trigolion, gan gynnwys datblygu ein Rhwydwaith Teithio Llesol. Mae’r cyllid a ddynodwyd yn flaenorol ar gyfer Croesfan Teithio Llesol Gwy wedi dod o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, a bydd hyn yn parhau i fod yn wir ar gyfer unrhyw gynnydd ar y cynllun yn y dyfodol. Mae’r cyllid wedi’i glustnodi ar gyfer prosiectau i gefnogi cynnydd mewn cerdded ac olwynion (Teithio Llesol) ac felly ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw wasanaethau eraill o fewn yr Awdurdod Lleol. Yn ystod blwyddyn ariannol 23/24, dyrannwyd y dyfarniad cyllid uchaf yng Nghymru i Sir Fynwy trwy’r broses fidio gystadleuol flynyddol ac mae swyddogion yn parhau i geisio cynyddu effaith y cyllid grant hwn ar gyfer cyllideb 24/25.
C8: Sut mae’r cynnig i godi tâl am fagiau gwastraff bwyd yn cyd-fynd â dyletswydd statudol y Cyngor i gael gwared ar wastraff cartref yn rhad ac am ddim?
Mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd statudol i gasglu a gwaredu gwastraff cartref ond gallant godi tâl am ei gyfyngu. Mae Awdurdodau Lleol hefyd yn gallu ei gwneud yn ofynnol i ddeiliaid tai ddarparu eu bagiau eu hunain i’w casglu.
C9: Mae ardrethi busnes yn faich ar sefydliadau sy’n rhedeg neuaddau pentref. Mae neuaddau pentref yn asedau cymunedol pwysig ac yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr sy’n wynebu’r her o ennill digon o arian i dalu’r ffioedd yswiriant, cynnal a chadw, ynni a thrwyddedu yn ogystal â threthi busnes. Bydd cynnig Llywodraeth Cymru i leihau lefel y rhyddhad manwerthu o 75% i 40% yn effeithio ar bob busnes sydd â hawl i’r rhyddhad, gan gynnwys tafarndai a neuaddau pentref. A ellir gwneud eithriad ar gyfer neuaddau pentref nad ydynt yn fusnesau mewn gwirionedd?
Mae nifer o gynlluniau rhyddhad ardrethi ar gael i neuaddau pentref, ac mae’r Cynllun Rhyddhad Manwerthu yn un ohonynt. Mae’r cynlluniau rhyddhad eraill yn dibynnu ar sut mae’r neuadd bentref yn gweithredu. Er enghraifft, ni fyddai’n rhaid i neuadd bentref sydd wedi’i meddiannu a’n gweithredu fel busnes â gwerth ardrethol o lai na £6,000 dalu unrhyw ardrethi busnes o dan y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBR). Os yw eu gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000, byddent yn cael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach wedi’i dapro. Os yw’r neuadd bentref yn gweithredu fel elusen gofrestredig, mae’n gymwys i gael rhyddhad gorfodol o 80%. Os ydynt yn gweithredu ar sail nid-er-elw, maent yn gymwys i gael uchafswm o ryddhad o 80% wedi’i gapio ar £2,500.
Dyfernir y cynllun rhyddhad manwerthu ochr yn ochr â’r rhyddhadau hyn ac ar ôl i bob rhyddhad arall gael ei gymhwyso. Byddai ehangu’r eithriadau hyn yn golygu cost i’r Cyngor a threthdalwyr Sir Fynwy.