Skip to Main Content

Gan ddechrau ar y 22ain Ionawr, bydd Cyngor Sir Fynwy yn dechrau gweithio ar lwybr teithio llesol newydd, Llwybr Teithio Llesol Lôn Cae Williams i Bont Mynwy.

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a Chronfa Dyrannu’r Gronfa Lles Craidd, a’i nod yw datblygu llwybr teithio llesol newydd sbon yn Nhrefynwy.

Mae’r llwybr hwn yn rhan hanfodol o’r rhwydwaith Teithio Llesol cynhwysfawr. Bydd yn darparu mynediad uniongyrchol i Bont Mynwy a’r gwasanaethau a’r cyfleusterau yng nghanol y dref. Bydd y llwybr yn cysylltu Lôn Cae Williams â chanol tref Trefynwy drwy Heol Wonastow a Stryd Drybridge. Bydd hefyd yn darparu cysylltiadau o barc sglefrio Heol Rockfield i ganol y dref.

Bydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn gweld nifer o newidiadau ar hyd y llwybr. Maent yn cynnwys:

  • Lledu’r droedffordd bresennol ar ochr ogleddol Heol Wonastow i gynnwys llwybr troed/beic a rennir (bydd dwy lôn ar gyfer traffig yn cael eu cynnal).
  • Gosod cyffordd â blaenoriaeth (cyffordd T) yn lle’r gylchfan fach bresennol yn Heol Wonastow /Rockfield.
  • Darparu croesfan i gerddwyr ar Heol Wonastow a Heol Rockfield.
  • Lledu’r droedffordd bresennol ar Heol Rockfield o’r gyffordd flaenoriaeth newydd i barc sglefrio Trefynwy. Bydd traffig dwy ffordd yn cael ei gynnal, ac ni fydd yn effeithio ar safleoedd bysiau.
  • Lledu rhan fer o’r llwybr troed presennol ar hyd Stryd Drybridge ger cylchfan Pont Mynwy
  • Cael gwared ar rannau o barcio ar y stryd ar hyd Heol Wonastow i ddarparu’r llwybr yn unol â Chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol.

Disgwylir i’r gwaith barhau am 12 wythnos, gyda’r nod o orffen erbyn canol mis Ebrill 2024. Bydd y llwybr hwn yn darparu cysylltiadau â lleoliadau addysg, megis Ysgol Gynradd Overmonnow ac Ysgol Gyfun Trefynwy, a bydd yn gyswllt canolog â chanol y dref a’i chyfleusterau. Bydd angen goleuadau traffig dros dro ar gyfer y gwaith ac maent wedi’u trefnu gan ystyried gwaith ffordd arall sydd wedi’i gynllunio yn yr ardal i leihau’r effaith.

Os hoffech fwy o fanylion am y rhaglen waith gyflawn yn Nhrefynwy, ewch i https://www.monlife.co.uk/williams-field-lane-to-monnow-bridge-active-travel-route/.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae hwn yn gam cyffrous yn natblygiad Llwybr Teithio Llesol yn Nhrefynwy. Bydd ehangu llwybrau troed yn darparu llwybr mwy diogel i feicwyr a cherddwyr wrth iddynt teithio o gwmpas Trefynwy.”

Tags: ,