Skip to Main Content

A ydych chi’n 50+ ac yn byw yn Sir Fynwy?

Rydym yn ceisio eich adborth i helpu Sir Fynwy ddod yn Gymuned sy’n Oed-gyfeillgar.

Os ydych chi’n 50 oed neu’n hŷn, cymerwch ran yn ein harolwg a rhannwch eich profiadau a’ch meddyliau ar fywyd bob dydd yn Sir Fynwy.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi nodi wyth maes allweddol sy’n hanfodol i les y boblogaeth 50+. Mae hwn yn gyfle gwych i chi roi eich adborth i ni ar y meysydd hyn.

Y wyth maes mae’r arolwg yn canolbwyntio arni ydy:

  • Mannau ac Adeiladau Awyr Agored
  • Cludiant
  • Tai
  • Cyfranogiad Cymdeithasol
  • Parch a Chynhwysiant Cymdeithasol
  • Cyfranogiad Dinesig a Chyflogaeth
  • Cyfathrebu a Gwybodaeth
  • Gofal Cymunedol a Gofal Iechyd

Os hoffech drafod yr arolwg neu eich profiadau gyda’n tîm Partneriaethau, byddant yn ymweld â gwahanol leoliadau ym mis Ionawr a mis Chwefror. Mae croeso i chi alw heibio a siarad â nhw.

  • Dydd Llun 29/1/24 – Llyfrgell Gilwern
  • Dydd Mawrth 6/2/24 – Canolfan Gymunedol a Llyfrgell Cil-y-coed
  • Dydd Mawrth 13/2/24 – Marchnad Y Fenni
  • Dydd Mercher 14/2/24 – Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Brynbuga
  • Dydd Mawrth 20/24/24 – Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Trefynwy
  • Dydd Gwener 23/2/24 – Canolfan Gymunedol a Llyfrgell Cas-gwent


Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os oes angen copi papur o’r arolwg, rhowch e-bost i’n tîm ar partnerships@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644644