Diweddariad
Wnaeth y gwasanaethau brys sefyll i lawr am 9am, dydd Sadwrn, 6 Ionawr
Mae GTADC, ynghyd â phartneriaid aml-asiantaeth (Heddlu Gwent/CNC/MCC/DC) yn parhau i ymateb i lifogydd sylweddol o amgylch Canolfan Hamdden Trefynwy a Hen Ffordd Dixton.
Er bod Afon Gwy yn Nhrefynwy wedi cyrraedd ei hanterth dros nos ac yn gostwng, bydd ymateb gweithredol parhaus sy’n pwmpio dŵr i ffwrdd o’r ardal yn parhau nes bod y lefelau’n gostwng i lefel ddiogel. Mae presenoldeb gwasanaethau brys yn yr ardal sy’n helpu trigolion Hen Ffordd Dixton i fynd i mewn ac allan fel bo’r angen.
Mae partneriaid yn hyderus y bydd y sefyllfa’n gwella wrth i ni symud i mewn gyda’r nos or 5 Ionawr a bydd ymgyrch lanhau yn dechrau cyn gynted ag y bydd yr amodau’n caniatáu.’