Llywodraeth y DU, nid Cyngor Sir Fynwy (CSF), sy’n gyfrifol am ailgyflwyno tollau ar Bontydd Hafren. Nid yw CSF yn lobïo Llywodraeth y DU am ailgyflwyno tollau ac nid oes ganddo unrhyw gynlluniau i wneud hynny.
Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn gwahodd adborth ar ei Gynllun Trafnidiaeth Lleol drafft. Diben yr ymgynghoriad yw alinio’r cynigion â pholisïau cenedlaethol sy’n annog gwneud dewisiadau trafnidiaeth sy’n gynaliadwy a newid dulliau teithio. Mae’r cynigion drafft wedi’u datblygu yn dilyn ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid. Defnyddir yr adborth o’r ymgynghoriad i ddatblygu’r cynigion terfynol sydd i’w hystyried gan y Cyngor yn y Flwyddyn Newydd.
Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Lleol yn nodi rhestr hir o opsiynau a allai fod yn arwyddocaol ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth a phobl Sir Fynwy. Datblygwyd y rhestr hir hon mewn modd cynhwysfawr er mwyn ystyried yr holl newidiadau posibl i’r rhwydwaith trafnidiaeth ac roedd yn cynnwys cyfraniadau gan randdeiliaid lleol a gweithwyr proffesiynol y diwydiant trafnidiaeth yn ystod gweithdai. Nid yw sawl opsiwn a gynhwysir yn y rhestr hir o gynlluniau – gan gynnwys yr opsiwn o adfer tollau ar Bontydd Hafren – yn bodloni un neu fwy o’r meini prawf gwerthuso er mwyn eu cynnwys ar y rhestr fer o ymyriadau ar gyfer eu gweithredu. Ni fydd y rhain yn cael eu datblygu fel rhan o’r cynllun ond maent wedi eu dogfennu er mwyn sicrhau proses gyflawn.
Dechreuodd yr ymgynghoriad ar y Cynllun Trafnidiaeth Lleol drafft ar 17eg Tachwedd ac mae’n cael ei gynnal tan 5fed Ionawr. Rydym yn croesawu adborth gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi’r Cyngor i ddatblygu ein Cynllun Trafnidiaeth Lleol.