Bydd Sir Fynwy yn cynnig rhaglen wirfoddoli deuluol newydd cyn hir.
Mae Clwb Gwirfoddoli Teuluol yn ei gwneud hi’n hawdd i blant 0-9 oed a’u hoedolion i helpu gydag achosion pwysig ar garreg eu drws.
Mae Cyngor Sir Fynwy eisiau helpu i greu cymdeithas lle mae pob plentyn yn tyfu i fyny yn teimlo cysylltiad â’u cymunedau lleol ac yn deall y rôl gadarnhaol y gallant ei chwarae wrth helpu i newid materion sydd o bwys iddynt.
Bydd y rhaglen yn cynnwys wyth sesiwn wirfoddoli hwyliog ac effeithiol i blant a gynhelir gan elusennau lleol.
Bydd y sesiynau am ddim ac yn addas ar gyfer oedran 0 – 9, ynghyd â’u hoedolion, gan ddod â theuluoedd lleol ynghyd i wneud gwaith ymarferol yn eu cymunedau.
Bydd y Clwb Gwirfoddoli Teuluol yn cael ei gynnal rhwng Mai a Gorffennaf 2024 a bydd yn cael ei greu mewn ymgynghoriad â’r gymuned leol.
Cyhoeddir y rhaglen lawn o sesiynau ym mis Ebrill 2024.
Mae’r rhaglen wedi’i hariannu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Fynwy a Chymdeithas Tai Sir Fynwy, a hynny diolch i’r Gronfa Ffyniant Bro.
Dywedodd Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir Fynwy, Martyn Groucutt: “Mae hwn yn gyfle gwych i blant a’u teuluoedd yn y Fenni a’r ardal ehangach.
“Nid yn unig y byddant yn elwa o’r profiad o wirfoddoli, ond heb os, byddant yn gwneud ffrindiau ac yn ennill sgiliau a fydd yn ddefnyddiol yn ddiweddarach mewn bywyd.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld yr effaith y bydd y Clwb Gwirfoddoli Teuluol yn ei gael yn y Fenni.”
Am fwy o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â Maddy Mills, Clwb Gwirfoddoli Teuluol:maddy@familyvolunteeringclub.co.uk
Mae Clwb Gwirfoddoli Teuluol hefyd yn recriwtio ar gyfer cydlynydd lleol ar gyfer y Fenni, ac mae mwy o fanylion ar gael yma: familyvolunteeringclub.co.uk/post/recruiting-local-coordinator-for-abergavenny
Tags: Monmouthshire, Volunteers