Mae Gwasanaethau Cymorth Tai Sir Fynwy yn darparu cymorth i bobl sy’n ddigartref neu sy’n cael anawsterau cadw neu ganfod cartref.
Os ydych angen cymorth i gael mynediad i lety addas neu aros yn eich cartref eich hun, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Tîm Cymorth Tai Cyngor Sir Fynwy ar:
Ffôn: 01633 740730
E-bost: housingsupportservice2@monmouthshire.gov.uk
Amdanom Ni ▼
Mae’r Tîm Cymorth Tai yn darparu ‘Gwasanaeth Porth’ sy’n gweithredu fel llwybr atgyfeirio i wasanaethau cymorth o fewn Sir Fynwy. Bydd aelod o’r Tîm yn cynnal gwerthusiad o’ch angen fel y byddwch yn derbyn y gwasanaeth mwyaf addas sydd ar gael i chi.
Cysylltwch â’r Tîm Porth Cymorth Tai os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod angen cymorth cysylltiedig â thai.
Mae’r Tîm Porth Cymorth Tai yn brofiadol wrth ddelio gyda’r llawer o broblemau sy’n wynebu pobl ac yn deall sut y gallant ddatblygu a gwaethygu os na chânt eu trin. Mae’r tîm yn ymroddedig i ddarparu cymorth pwrpasol i’r unigolyn er mwyn atal a delio gyda digartrefedd.
I wneud cais am Gymorth Tai, cliciwch y ddolen isod:
Beth yw Cymorth Tai ▼
Gall Cymorth Tai eich cynorthwyo gydag ystod o faterion yn cynnwys:
- Help a chyngor gydag unrhyw broblemau y gallech fod yn eu cael yn gysylltiedig â thai
- Cyngor gyda threfnu a rheoli eich arian
- Cyngor a help i hawlio’r budd-daliadau a grantiau sydd ar gael
- Help i ddatblygu sgiliau byw bob dydd
- Help i gael mynediad i wasanaethau a chyfleoedd eraill e.e. iechyd, cyflogaeth ac addysg.
Mae dewis eang o wasanaethau ar gael drwy’r Porth Cymorth Tai. Gall y gwasanaethau hyn helpu gyda materion yn gysylltiedig â hybu iechyd a llesiant, cynhwysiant cymdeithasol a pherthnasoedd teulu. Nid yw Cymorth Tai yn cynnwys gwasanaethau personol neu ofal (e.e. help gydag ymolchi, gwisgo, atgoffa/cymryd meddyginiaeth).
Nid oes cost defnyddio Cymorth Tai. Fodd bynnag mae’n rhaid i chi fod yn byw o fewn ardal Sir Fynwy i gael mynediad i’n gwasanaethau. Os ydych yn byw tu allan i Sir Fynwy, cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i chi.
Gall unrhyw un wneud cais.
Sut i gael mynediad i Cymorth Tai ▼
Mae’n well gofyn am help yn gynnar ac nid yw hi BYTH yn rhy hwyr gofyn am help a chyngor. I gael mynediad i Cymorth Tai gallwch naill ai eich atgyfeirio eich hun neu ofyn i berson arall gysylltu â ni ar eich rhan. Gallai hyn fod eich gweithiwr cymdeithasol, swyddog tai, perthynas, cyfaill neu unrhyw un arall.
Os nad ydych yn siŵr os yw cymorth yn iawn i chi, cysylltwch â ni drafod pa gymorth y gallwn ei gynnig. Os nad yw’r cymorth a gynigiwn yn ateb eich anghenion, gallwn eich cynorthwyo i ddod o hyd i’r gwasanaeth priodol i helpu.
Beth sy’n digwydd nesaf ▼
Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad i drafod eich atgyfeiriad neu, os yw’n well gennych, gallwn drefnu apwyntiad ffôn i drafod eich anghenion cymorth.
Yn ystod yr apwyntiad hwn byddwn yn cwblhau gwerthusiad o sut y gall eich anghenion cymorth a gallwch gael eich rhoi ar restr aros cyn cael mynediad i wasanaethau.
Unwaith y caiff cymorth ei roi i chi, byddwch yn cael gweithiwr cymorth fydd yn cwrdd yn rheolaidd gyda chi i helpu datrys unrhyw broblemau cysylltiedig â thai y gallwch fod yn eu cael.
Caiff cymorth ei ddarparu naill ai gan dîm mewnol Cyngor Sir Fynwy neu drwy unrhyw un o’n darparwyr allanol sy’n gweithio wrth ochr y Tîm Porth Cyngor Tai.
Grant Cymorth Tai ▼
Diben craidd y Grant Cymorth Tai (Cefnogi Pobl, Atal Digartrefedd a Rhentu Doeth Cymru) yw atal digartrefedd a chefnogi pobl i gael y gallu, yr annibyniaeth, y sgiliau a’r hyder i gael mynediad i gartref sefydlog ac addas a/neu ei gadw. >Grant Cymorth Tai – Monmouthshire
Sesiwn Galw Heibio Tai a Llesiant ▼
Ydych chi’n cael anawsterau tai? Gallwn helpu gyda:
- Materion tai a thenantiaeth
- Cyngor ar ddigartrefedd
- Ymholiadau ar fudd-daliadau cysylltiedig â thai
- Homesearch a gwneud cynnig
Mynediad i asiantaethau eraill ar gyfer anghenion cymorth penodol (cyngor ariannol, problemau iechyd), cymorth teulu)
Sesiwn cymorth galw heibio
- POBL Tai a Llesiant – Sesiwn Galw Heibio
Bob dydd Mawrth a dydd Iau 9:30am-13:30pm yn Llyfrgell Cas-gwent
- Llamau Tai a Llesiant – Sesiwn Galw Heibio
Bob dydd Gwener 9:30am-12:30pm yn Hyb Trefynwy.
Hefyd, mae apwyntiadau ar gael bob bore dydd Mawrth o 10am yn yr hyb ar gyfer unrhyw anghenion a chymorth ar ddigartrefedd.
- Cymdeithas Tai Sir Fynwy Tai a Llesiant – Sesiwn Galw Heibio
Bob dydd Mercher 12pm-2pm yn Gyda’n Gilydd, Cil-y-coed
Bob dydd Iau 10am-12pm yng Nghanolfan Adnoddau Mardy, Parc Mardy, Y Fenni
Cwmpawd – Cymorth ac Atal Digartrefedd Ieuenctid ▼
Nod Compass yw adnabod a chefnogi pobl ifanc 11-25 oed sy’n cael trafferthion gyda’u lles emosiynol, mewn risg o ddod yn ddigartref neu sydd wedi dod yn ddigartref.
Cynigiwn gymorth gyda:
- Lles Meddwl ac Emosiynol a Chymorth Seiliedig ar Fater
- Atal/Adnabod Cynnar ar Ddigartrefedd
- Mentoriaeth/Eiriolaeth
- Sgiliau Byw Annibynnol
- Cefnogaeth yn yr Ysgol
- Rheoli Arian
- Cymorth Cyflogaeth
- Gwaith mewn partneriaeth gydag Ysgolion, Gwasanaethau Iechyd, Gwasanaethau Plant ac yn y blaen
Gwasanaethau sydd ar gael drwy’r Porth Cymorth Tai ▼
Mae’n rhaid i bob atgyfeiriad ddod drwy’r Porth Cymorth Tai i gael mynediad i gymorth cysylltiedig â thai yn Sir Fynwy.
Caiff gwasanaethau eu cyflwyno gan y darparwyr a restrir isod ar ran Cyngor Sir Fynwy a chânt eu hariannu gan y Grant Cymorth Tai.
Mae mwy o wybodaeth ar dudalennau gwefan ein darparydd isod:
Gwybodaeth gysylltiedig ▼
Cwrdd â’r Tîm ▼
Trudy Griffin – Rheolwr Comisiynu a Gweithrediadau Cymorth Tai
Carl Potts – Uwch Swyddog Porth Cymorth Tai
Terri Seldon – Swyddog Porth Cymorth Tai
Tony Waite – Swyddog Porth Cymorth Tai
Mia Harris – Swyddog Porth Cymorth Tai
Joanna Taylor – Swyddog Porth Cymorth Tai
Donna Williams – Cynorthwyydd Porth Cymorth Tai
Angela Smith – Swyddog Credyd Cynhwysol Cymorth Tai
Keri-Ann Young – Swyddog Credyd Cynhwysol Cymorth Tai
Emily Griffiths – Swyddog Atal Lefel Isel Cymorth Tai
I siarad gydag aelod o’n Tîm, cysylltwch â ni ar:
01633 740730 neu housingsupportservice2@monmouthshire.gov.uk