Skip to Main Content

Newidiadau i’r diwrnodau casglu o ymyl y ffordd

Diwrnod Casglu ArferolDiwrnod Casglu Newydd
Dydd Llun 23ydd o RagfyrDydd Llun 23ydd o Ragfyr
Dydd Mawrth y 24ydd o RagfyrDydd Mawrth 24ydd o Ragfyr
Dydd Mercher 25ed o RagfyrDydd Gwener 27ain o Ragfyr
Dydd Iau 26ain o RagfyrDydd Sadwrn 28ain o Ragfyr
Dydd Gwener 27ain o RagfyrDydd Sul 29ain o Ragfyr
Dydd Llun 30ain o RagfyrDydd Llun 30ain o Ragfyr
Dydd Mawrth 31ain o RagfyrDydd Mawrth 31ain o Ragfyr
Dydd Mercher y 1af o IonawrDydd Iau 2il o Ionawr
Dydd Iau y 2il o IonawrDydd Gwener 3ydd o Ionawr
Dydd Gwener y 4ydd o IonawrDydd Sadwrn 5ed o Ionawr

Bydd yr holl gasgliadau gwastraff yn digwydd 2 ddiwrnod yn ddiweddarach ar ôl y Nadolig ac 1 diwrnod yn ddiweddarach ar ôl y Flwyddyn Newydd.


Bydd pob dyddiad casglu ac eithrio’r rhai a restrir uchod yn aros yr un fath.

Mae hyn hefyd yn berthnasol i holl gasgliadau ailgylchu a gwastraff busnes.

Gallwch wirio eich diwrnodau casglu drwy fynd i’r dudalen we ‘Gwybodaeth Leol’ : http://maps.monmouthshire.gov.uk/

Sicrhewch fod yr holl wastraff yn cael ei roi allan cyn 7am er mwyn iddo gael ei gasglu.

Mae cyfnod y Nadolig yn arwain at fwy o wastraff felly mae’r cyngor wedi cytuno y gall trigolion roi un bag ychwanegol o wastraff bag du allan ar gyfer eu casgliad cyntaf ar ôl Dydd y Nadolig rhwng 27ain o Ragfyr 2024 a’r 7ain o Ionawr 2025.

Nid oes cyfyngiad ar faint o ailgylchu y gallwch ei roi allan i’w gasglu.

Gellir ailgylchu papur lapio Nadoligaidd mewn bagiau coch ar yr amod nad yw wedi’i wneud o ffoil, plastig neu ddeunydd lapio gliter. Gellir ailgylchu cardiau Nadolig yn eich bagiau coch hefyd. Gellir ailgylchu’r holl wastraff bwyd gan ddefnyddio’r casgliad ymyl y ffordd.

Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau ar ailgylchu dros y Nadolig yn: https://walesrecycles.org.uk/ ac awgrymiadau ar gyfer lleihau gwastraff bwyd y Nadolig hwn gan Love Food Hate Waste: https://www.lovefoodhatewaste.com/

Gwastraff gardd

Daw gwasanaeth casglu gwastraff gardd 2024 i ben ar yr 6ain o Ragfyr. Bydd un casgliad ychwanegol rhwng 6ain – 17ain o Ionawr 2025 er mwyn helpu gyda dail sydd wedi cwympo a choed Nadolig. Rhowch eich coed Nadolig y tu mewn neu wrth ymyl eich bin gwastraff gardd i’w casglu.

Fel arall, gallwch fynd â choed Nadolig go iawn i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref agosaf.

Bydd gwasanaeth casglu 2025 yn ailddechrau ym mis Mawrth a bydd cofrestru yn agor ym mis Ionawr.

Newidiadau i oriau agor y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd:

Dydd Mawrth 24ydd o Ragfyr8am i 2pm (edrychwch ar ddiwrnodau agor y safle a threfnwch apwyntiad)
Dydd Mercher 25ed o RagfyrAr gau
Dydd Lau 26ain o RagfyrAr gau
27ain i’r 31ain o Ragfyr8am i 4pm (edrychwch ar ddiwrnodau agor y safle a threfnwch apwyntiad)
Dydd Mercher 1af o IonawrAr gau
Dydd Lau 2il  o Ionawr8am i 4pm (edrychwch ar ddiwrnodau agor y safle a threfnwch apwyntiad)


Mae’n rhaid i chi archebu lle cyn ymweld â Chanolfan Ailgylchu.

Er gwybodaeth, bydd y safleoedd yn dal i fod ar gau ar eu diwrnodau cau arferol – I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu apwyntiad ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste/household-waste-recycling-centres/

Siopau Ailddefnyddio

Bydd ein siopau ailddefnyddio ar gau dros gyfnod y Nadolig.

Y diwrnodau olaf y byddwn ar agor yw dydd Mercher 18ain o Ragfyr yn Five Lanes a dydd Mawrth 17ain o Ragfyr yn Llan-ffwyst. Byddwn yn ôl yn y Flwyddyn Newydd. Byddwn yn ailagor ddydd Mercher 15ed o Ionawr yn Five Lanes a dydd Mawrth 14ydd o Ionawr yn Llan-ffwyst.

Diolch i holl drigolion Sir Fynwy am ailgylchu eleni!

Nadolig llawen a Blwyddyn Newydd Dda.

Tîm Ailgylchu a Gwastraff, Cyngor Sir Fynwy