Skip to Main Content

Cymorth Hanfodol yn Y Fenni

Hyb Cymunedol Y Fenni

Ar gyfer ymholiadau’r Cyngor a chyngor ar faterion eraill: Neuadd y Dref, Stryd y Groes, Y Fenni,  NP7 5EU

Hybiau Cymunedol Sir Fynwy – Oriau agor

Tel: 01633 644 644


Cyngor Ar Bopeth

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor cyfrinachol ac anwahaniaethol am ddim mewn meysydd amrywiol fel Dyled, Budd-daliadau, Teulu a Pherthnasoedd, eich Hawliau fel Cwsmer, Ymholiadau Cyfreithiol, a mwy! Swyddfa’r Fenni: 19 C&B, Stryd y Groes, Y Fenni, NP7 5EW.

Ffôn: 01873 856466

E-bost: abergavenny@monca.org.uk

monca.org.uk


Canolfan Mentergarwch Cymuned Y Fenni

Cymorth a chyngor ar amrywiaeth o faterion ac yn cynnal cymorthfeydd galw heibio gan lawer o sefydliadau cymorth lleol. Mae’r Ganolfan hefyd yn cadw rhai parseli bwyd.

Ffôn: 01873 853623

E-bost: info@acepartnership.co.uk 

acepartnership.co.uk


Banc Bwyd Y Fenni

Wedi’i leoli yn Eglwys y Bedyddwyr yn y Fenni ar Stryd Frogmore, NP7 5AL, mae Banc Bwyd y Fenni yn darparu 3 diwrnod o fwyd cytbwys o ran maeth a chefnogaeth i bobl leol. (Atgyfeiriadau yn Unig)

Ffôn: 07340 795328

E-bost: aber.hub@gmail.com

abergavenny.foodbank.org.uk/


benthyg

Benthyg Sir Fynwy

Eich llyfrgell leol o bethau yn Community Centre Old Park Street School Merthyr Road Abergavenny NP7 5BY

Nod llyfrgell o bethau yw caniatáu i bobl fenthyca pethau sydd eu hangen arnynt ond nad ydynt yn berchen arnynt, am gost isel, gan arbed arian a lle yn eu cartrefi. 

Visithttps://monmouthshire.benthyg.cymru/sites

Benthyg Abergavenny | Abergavenny | Facebook


Eglwys Gateway, Caffi Cymunedol

Mwynhewch ginio, gan gynnwys prydau poeth a brechdanau, ar gyfer y rhai mewn angen yng Nghaffi Cymunedol Eglwys Gateway, a leolir yng Nghanolfan Gristnogol Gateway ar Monk Street, NP7 5ND. Mae Cwpwrdd Bwyd am ddim ar gael (yn amodol ar argaeledd).

Ffôn: 01873 853126

E-bost: info@gatewaychurch.wales

https://gatewaychurch.wales/


Canolfan Gymunedol Y Fenni

Mae canolfan gymunedol y Fenni yn cynnig canolbwynt cynnes a deniadol; lle gallwch gael cinio dau gwrs wythnosol, cost isel *mae angen archebu lle dros y ffôn. Wedi’i leoli yn Heol Merthyr, Y Fenni NP7 5BY.

Ffôn: 07821 627038

https://abergavennycc.org/


Cwtch Angels – Oergell Gymunedol

Mae’r Oergell Gymunedol yn cadw amrywiaeth o hanfodion gan gynnwys bwyd ffres a bwyd wedi’i rewi. Gall rhodd o £5 gael bag o fwyd gwerth tua £25, yn amodol ar argaeledd ac amodau. Drwy brynu gan Cwtch Angels, rydych chi’n achub y blaned trwy atal bwydydd o ansawdd da rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Mae’r Oergell Gymunedol wedi’i lleoli yn Uned 2 Hatherleigh Place, Yr Hen Wyrcws, Union Rd West, NP7 7RL

Ffôn: 07983 425560

E-bost: cwtchangels1@gmail.com

Cwtch Angels, Abergavenny CIC | Facebook


Cwtch Angels: Banc Babanod

Mae’r Banc Babanod yn gweithredu o fewn Hyb Cwtch Angels, gyda’r nod o gefnogi teuluoedd mewn caledi ariannol. Mae’n darparu offer hanfodol, dillad a nwyddau ymolchi am ddim i fabanod newydd-anedig i 24 mis oed. Os oes angen cymorth neu gefnogaeth arnoch gyda nwyddau babanod am ddim, cysylltwch â’r tîm.

Ffôn: 07983 425560

E-bost: cwtchangels1@gmail.com

Cwtch Angels, Abergavenny CIC | Facebook


Cwtch Angels: Banc Bwyd ar gyfer Anifeiliaid Anwes

Mae’r Banc Bwyd Anifeiliaid Anwes yn Cwtch Angels yn cyflenwi bwyd hanfodol ar gyfer eich ffrindiau blewog. I gael mynediad at y gwasanaeth ffoniwch neu ewch i’r siop. *Yn amodol ar argaeledd.

Ffôn: 07983 425560

E-bost: cwtchangels1@gmail.com

Visit : Cwtch Angels, Abergavenny CIC | Facebook


Urddas Mislif – Nwyddau Mislif Am Ddim

Mae Cwtch Angels yn stocio amrywiaeth o eitemau cynaliadwy ar gyfer y mislif sydd ar gael yn eu Oergell Gymunedol.

Ffôn: 07983 425560

E-bost: cwtchangels1@gmail.com

Visit : Cwtch Angels, Abergavenny CIC | Facebook


Cwtch Angels: Celfi Fforddiadwy

Mae hyb Cwtch Angels yn stocio amrywiaeth o eitemau cartref cost isel a dodrefn, am ragor o wybodaeth:

Ffôn: 07983 425560

E-bost: cwtchangels1@gmail.com

Visit : Cwtch Angels, Abergavenny CIC | Facebook


Homemakers Community Recycling (HCR)

Nod HCR yw lleihau dodrefn sy’n mynd i safleoedd tirlenwi trwy gynnig clirio tai, neu ddodrefn sydd ar gael am brisiau rhesymol. Mae HCR wedi’i leoli yn The Chapel the Old Workhouse Hatherleigh Place Union Road West, Y Fenni NP7 7RL, ac yn cynnig amrywiaeth o ddodrefn gan gynnwys soffas, byrddau, cypyrddau dillad a llawer mwy o eitemau am gost fforddiadwy.

Ffôn: 01873 857618

Visit: www.hmcrecycling.co.uk


Grant Prydau Ysgol Am Ddim a Hanfodion Ysgol

Am gymorth ariannol , cysylltwch ag Adran Budd-daliadau Cyngor Sir Fynwy.

Ffôn: 01495 742037 or 01495 742377

benefits@monmouthshire.gov.uk  

Grant Prydau Ysgol a Gwisg Am Ddim