Cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu penllanw wythnos Pryd ar Glud yn Y Fenni yn ddiweddar.
Mae Wythnos Pryd ar Glud (30ain Hydref i’r 3ydd Tachwedd, 2023) yn fenter flynyddol sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau amhrisiadwy a ddarperir i’n haelodau hŷn a’n agored i niwed yn y gymuned, fel eu bod yn derbyn prydau maethlon yn eu cartrefi eu hunain, neu drwy glybiau cinio a chanolfannau dydd.
Mae’r gwasanaethau hyn yn sicrhau mynediad at brydau maethlon ac yn cynnig rhyngweithio dynol hanfodol a gwiriadau lles, gan alluogi unigolion i gynnal eu hannibyniaeth.
Ddydd Gwener, 3ydd Tachwedd 2023, cynhaliwyd digwyddiad Clwb Cinio ‘Friday Friends’ yng Nghanolfan Adnoddau Parc Mardy yn y Fenni.
Nod ‘Friday Friends’ yw pwysleisio arwyddocâd bwyta cymdeithasol wrth frwydro yn erbyn unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Mae’n gyfle i aelodau ein cymuned ddod at ei gilydd, rhannu pryd o fwyd, a mwynhau cwmni ein gilydd.
Fel rhan o’r digwyddiad, canolbwyntiwyd ar Barc Mardy yn darparu prydau maethlon gan ddefnyddio llysiau a gynhyrchwyd yn lleol – llawer wedi’u tyfu ar y safle gan Growing Spaces, prosiect sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl.
Defnyddiwyd rhai o’r llysiau hyn fel rhan o’r digwyddiad.
Dywedodd Ian Chandler, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Roedd yn wych edrych o gwmpas Parc Mardy i weld yr holl waith maen nhw’n ei wneud a hefyd i nodi diwedd wythnos Pryd ar Glud.
“Mae’r staff ym Mharc Mardy yn darparu gwasanaeth hanfodol i gynifer o bobl yn y Fenni. “Mae digwyddiadau fel Clwb Cinio Cyfeillion ‘Friday Friends’ yn darparu cymaint mwy na bwyd i’r rhai sy’n mynychu. Hir oes i’r grŵp.”
Tags: Monmouthshire