O heddiw ymlaen, 6ed Tachwedd 2023, gall rhieni wneud cais i’w plant ddechrau’r ysgol ym mis Medi 2024.
Mae plant sydd wedi eu geni rhwng 1af Medi 2019 a’r 31ain Awst 2020 yn gymwys i ddechrau Dosbarthiadau Derbyn ym mis Medi 2024. Gofynnir i rieni gwblhau eu cais cyn 9fed Ionawr 2024 er mwyn sicrhau bod y cyfle gorau i sicrhau bod eu plentyn yn mynychu’r ysgol y maent wedi dewis.
Rhaid i rieni sy’n byw yn Sir Fynwy wneud cais i’r Cyngor hyd yn oed os ydynt yn dewis ysgol y tu allan i ffiniau’r sir (ac eithrio ysgolion yng Nghasnewydd lle mae ceisiadau i’w gwneud yn uniongyrchol i Gyngor y Ddinas).
Bydd rhieni sy’n cyflwyno ffurflenni cais erbyn y dyddiad cau ar 9fed Ionawr 2024 yn cael gwybod pa ysgol y bydd eu plentyn yn mynychu tua’r 16eg Ebrill 2020.
I wneud cais neu ddysgu mwy am wneud cais, ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/starting-primary-school/. Cyn cwblhau’r cais, gofynnwn i chi dreulio ychydig o amser yn darllen y Nodiadau Canllaw a’r Llyfryn Dechrau Ysgol 2024/25 sydd i’w gweld ar y wefan.
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Sir Fynwy: “Mae’n amser cyffrous o’r flwyddyn wrth i ni ddechrau gweld y ceisiadau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr yn ein hysgolion. Mae hefyd yn gyfnod cyffrous i rieni wrth iddynt ddewis y llwybr ar gyfer eu plant.
Gwnewch gais cyn y dyddiad cau i roi’r cyfle gorau i’ch plentyn sicrhau lle yn yr ysgol yr ydych wedi dewis. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n Tîm Derbyn i Ysgolion.”
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch accesstolearning@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644508 os gwelwch yn dda.
Tags: Monmouthshire, news, School