Mae cynlluniau i wella glan yr afon ger Pont Mynwy a gwella seilwaith sylfaenol yn Nhrefynwy ar y gweill.
Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Trefynwy ac fe’i hariennir gan gynllun Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru. Nod y cynllun yw galluogi gwelliannau seilwaith twristiaeth ar raddfa fach i wneud trefi yn fwy deniadol i ymwelwyr.
Mae’r prosiect yn cynnwys plannu coed a blodau gwyllt, man picnic newydd a meinciau parc i fwynhau’r llecyn hyfryd ar lan yr afon gyda’i olygfa o’r bont eiconig, arwyddion a cherflunwaith i greu ard fwy gweledol o’r man gwyrdd oddi wrth y maes parcio. Yn ogystal â’r gwelliannau i’r man agored, bydd biniau sbwriel “clyfar” newydd yn cael eu gosod ar Stryd Mynwy a lleoliadau allweddol eraill.
Dewiswyd y man gwyrdd poblogaidd ar yr hen farchnad wartheg ger Hen Bont Mynwy ar gyfer cyllid gan mai dyma’r argraff gyntaf ac olaf y mae llawer o ymwelwyr yn ei chael o Drefynwy.
Bydd y cerflun sy’n cael ei greu gan yr artist mosaig cymunedol o Gasnewydd, Stephanie Roberts, yn cynrychioli’r angen i warchod ein hafonydd a’n bywyd gwyllt gwerthfawr.
Bydd Stephanie hefyd yn cynnal digwyddiad cymunedol fel rhan o’r prosiect yn y Tŷ Price, Neuadd St Thomas:
Cwrdd â’r Artist
Dydd Sadwrn 11 Tachwedd, 2.15pm-4.15pm
Digwyddiad sgyrsiol yw hwn lle bydd Stephanie yn rhannu ei dyluniadau gwaith celf, cysyniadau a phrosesau o ddylunio i adeiladu. Nod Stephanie yw meithrin cysylltiad pobl leol â’r prosiect wrth rannu ei phroses greadigol a’i defnydd o ddeunyddiau wedi’u hail-bwrpasu.
Cyfleoedd gweithdai
Dydd Gwener, 24ain Tachwedd, sesiynau bore a phrynhawn.
Mae Stephanie yn gwahodd y gymuned i gofrestru ar gyfer dau weithdy print, lle bydd unigolion yn creu printiau a fydd yn ysbrydoli ac yn hysbysu elfennau mosaig manwl y gwaith celf, wedi’u hysbrydoli gan Afon Mynwy a gwarcheidiaeth. Mae lleoedd yn gyfyngedig. Rhaid i blant fod yn 13+ oed oni bai eu bod yng nghwmni oedolyn.
Dewch draw i Dŷ Price ar ddydd Sadwrn 11eg Tachwedd i glywed am y prosiect a chofrestru ar gyfer gweithdy.
Fel rhan o’r prosiect hefyd, mae Stephanie yn gweithio gyda Chlwb Celf Ysgol Gyfun Trefynwy i ddatblygu’r dyluniadau ymhellach.
Elfen bwysig o’r prosiect yw cyflwyno biniau ailgylchu “clyfar” ledled canol y dref i gasglu caniau, poteli plastig a chwpanau papur i’w hailgylchu. Dangosodd dadansoddiad o gynnwys biniau sbwriel yn Nhrefynwy y gallai 30% o’r eitemau mewn biniau gael eu hailgylchu pe bai biniau addas ar gael. Bydd y biniau newydd yn cael eu gosod ym mis Ionawr a mis Chwefror, gan ei gwneud hi mor hawdd dod o hyd i fin ailgylchu ag ydyw i ddod o hyd i fin sbwriel arferol ar y stryd. Mae trigolion Sir Fynwy ymhlith y prif ailgylchwyr yng Nghymru, gyda 70% o holl wastraff y cartref yn cael ei ailgylchu. Yn ogystal â biniau sbwriel ailgylchu stryd, bydd pum canolfan ailgylchu mwy yn cael eu cyflwyno lle gellir ailgylchu poteli gwydr, caniau, poteli plastig a chwpanau papur. Bydd y biniau hefyd yn cael eu gosod gyda synwyryddion llenwi biniau electronig fel rhan o arbrawf i brofi sut y gall technoleg helpu i leihau amlder y biniau sbwriel sy’n gorlifo.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby: “Mae’r llecyn hwn ger Pont Mynwy yn ardal boblogaidd i eistedd a mwynhau’r afon, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y blodau gwyllt a’r coed a’r meinciau newydd. Rwyf yn falch hefyd ein bod yn ei gwneud yn haws i bobl ailgylchu pan fyddant allan, yn ogystal â gartref.Rydym eisoes wedi cyflawni cyfradd ailgylchu domestig dda yn Sir Fynwy, ac mae hwn yn gam nesa da. “
Dywedodd y Cynghorydd Jane Lucas, cynghorydd ar Gyngor Tref Mynwy: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y cynlluniau ar gyfer Stryd Blestium, ac yn edrych ymlaen yn fawr at y trigolion i fod yn rhan o’r prosiect. Bydd y cynllun heb os yn gwella mannau cyhoeddus presennol gyda blodau gwyllt a choed. bydd y rhan boblogaidd a hanesyddol hon o Drefynwy yn croesawu mwy o finiau ailgylchu.”
Mae’r prosiect yn rhan o’n Cynllun Gweithredu Cynnig ar gyfer Afonydd a Chefnforoedd, sy’n codi ymwybyddiaeth o’r effaith y gall sbwriel ei chael ar ein hafonydd a’n moroedd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein Cynllun Gweithredu Cynnig ar gyfer Afonydd a Chefnforoedd yma: https://democracy.monmouthshire.gov.uk/documents/s32681/1c%20Motion%20for%20ocean%20Action%20plan%20DRAFT.pdf
Tags: environment, Monmouthshire, news