Wrth i’r 5ed o Dachwedd agosáu, mae Cyngor Sir Fynwy yn atgoffa pobl i gadw’n ddiogel.
Ar draws y sir, bydd digwyddiadau wedi’u trefnu, sy’n darparu amgylchedd diogel i bobl fwynhau arddangosfeydd.
Os ydych chi’n cael eich dathliadau eich hun, dyma rai i’w gwneud a pheth na ddylech eu gwneud.
Cofiwch wneud y canlynol:
- Prynwch dân gwyllt gan stocwyr cyfrifol yn unig. Dilynwch gyngor diogelwch yn ofalus, gan sefyll yn ôl a pheidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt sydd heb ei oleuo na’i daflu ar y goelcerth.
- Cadwch bob anifail anwes tu fewn.
- Os oes gwartheg mewn caeau cyfagos, rhowch wybod i’r perchennog am eich cynlluniau, gan ei bod hi’n hawdd eu drysu.
- Ystyriwch y bywyd gwyllt, gan y gallai draenogod, llyffantod, brogaod, madfallod a nadroedd fod yn swatio o dan y goelcerth.
- Adeiladwch y goelcerth mor agos at y diwrnod â phosibl ac mor bell â phosibl oddi wrth y gwartheg, coed, blychau adar a blychau ystlumod. Gall pentwr mawr o ganghennau a dail edrych fel gwesty 5* i ddraenog. Gwiriwch yn ofalus cyn cynnau’r tân a chynnau’r tân o un ochr er mwyn rhoi llwybr dianc i fywyd gwyllt o’r fflamau.
- Dylech sicrhau bod bwced tywod ar gael ar gyfer ffyn gwreichion sydd wedi darfod; peidiwch â’u gadael ar lawr gwlad.
Cofiwch na ddylech gwneud y canlynol:
- Peidiwch byth â llosgi pethau plastig, teiars, pren wedi’i drin, tuniau nwy, olew neu eitemau trydanol. Bydd eich canolfan ailgylchu gwastraff y cartref leol yn derbyn yr holl eitemau hyn.
- Peidiwch â chael eich temtio i losgi hen ddarnau o ddodrefn, matresi a sbwriel cartref oherwydd bydd y mygdarthau gwenwynig yn achosi llygredd ac yn niweidio iechyd pobl.
- Peidiwch ag adeiladu eich coelcerth yn agos at siediau gardd, tai a hyd yn oed ffyrdd cyfagos lle gallai’r mwg effeithio ar welededd modurwyr.
- Peidiwch byth â gadael eich tân heb neb yn gofalu amdano a sicrhewch ei fod wedi diffodd yn llwyr cyn gadael y safle
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: https://www.southwales-fire.gov.uk/newsroom/news/stay-alert-dont-get-hurt-this-halloween-and-firework-period/
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Gall coelcerthi ac arddangosiadau tân gwyllt fod yn hwyl, ond gallant hefyd fod yn beryglus neu’n frawychus – i bobl, anifeiliaid anwes, gwartheg a bywyd gwyllt – ac felly, byddwch yn ofalus a chadwch yn ddiogel yn ystod y dathliadau. Dilynwch y cyngor diogelwch yn ofalus, a meddyliwch am yr effaith ar yr amgylchedd hefyd. Os yn bosibl, ewch i ddigwyddiad sydd wedi ei drefnu i ddathlu a gwylio’r arddangosfeydd, yn hytrach na chael coelcerthi a thân gwyllt mewn gerddi cefn.”