Mae noson fwyaf arswydus y flwyddyn bron yma ac mae meintiau brawychus o wastraff yn cael eu creu ond does dim rhaid i bethau fod fel hyn…
Byddwch yn greadigol gyda gwisgoedd Calan Gaeaf. Gwnewch eich gwisg ysbryd eich hun o hen ddillad gwely. Adolygwch hen wisgoedd o flynyddoedd blaenorol a dewiswch ailddefnyddio gwisgoedd o siopau elusen yn lle prynu o’r newydd.
Os ydych yn croesawu dathlwyr Calan Gaeaf wrth eich drws – cynigiwch ddanteithion iddynt fel afalau, tanjerîns, bisgedi neu gacen heb y lapiad fel bod llai o sbwriel ar y stryd.
Ac, unwaith y byddwch wedi cerfio eich pwmpen berffaith – defnyddiwch beth oedd y tu mewn i wneud cawl blasus. Yna, pan fydd yr hwyl drosodd, cofiwch ei roi yn eich bin ailgylchu gwastraff bwyd sy’n cael ei gasglu bob wythnos.
Dywedodd y Cyng. Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Wrth i Galan Gaeaf agosâi, gall pawb chwarae eu rhan i leihau gwastraff yn ein sir. Ail-defnyddiwch eich pwmpen ar gyfer pryd o fwyd i’r teulu. A chofiwch, pan fydd Calan Gaeaf yn dod i’w ben, gall beth sydd ar ôl o’ch pwmpen gael i’w taflu yn bin ailgylchu bwyd.”