Mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael yn Sir Fynwy i helpu pobl gydag amhariad synhwyraidd i gadw cymaint o annibyniaeth a rheolaeth dros eu bywydau ag sydd modd. Yma dywedwn wrthych am y gwasanaethau a sut i gael mwy o wybodaeth amdanynt.
Amhariad synhwyraidd yw’r term a ddefnyddir i gynnwys pobl sydd yn:
- Dall/ag Amhariad ar eu Golwg
- Byddar/ag Amhariad ar eu Clyw
- Byddar a Deall (amhariad synhwyrydd deuol)
Sut y gallwn eich helpu?
Gall Gweithwyr Cymdeithasol roi cyngor, cefnogaeth, gwybodaeth a chwnsela. Gallant eich helpu chi, eich teulu ac unrhyw ofalwyr yn y meysydd dilynol:
- Gwasanaethau i’ch helpu yn eich cartref eich hun e.e. gofal dydd, pryd ar glyd, gofal cartref ac ati
- Cyngor a gwybodaeth ar fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt
- Manylion sefydliadau gwirfoddol a grwpiau hunangymorth
- Cysylltiadau gydag asiantaethau eraill i’ch helpu i fyw mewn modd annibynnol e.e. cyflogaeth, adsefydlu a gwasanaethau addysg
- Gweithgareddau yn ystod y dydd
- Lleoliad mewn cartref preswyl neu gartref gofal nyrsio os ydych ei angen
- Darparu gwybodaeth i’ch helpu i ymdopi ar sail ddyddiol
Gallwch chi a’ch gweithiwr cymdeithasol weithio allan pa wasanaethau all roi’r help i chi yr ydych ei angen.
Rhai o’r gwasanaethau a all fod ar gael i chi yw:
Gwasanaethau Adsefydlu
Gall y Swyddog Adsefydlu gynnig help ymarferol gyda phroblemau pan maent yn digwydd. Gall hyn fod yn gyngor a hyfforddiant mewn symudedd, byw o ddydd i ddydd neu sgiliau cyfathrebu.
Therapyddion Galwedigaethol Cymunedol
Gall Therapyddion Galwedigaethol roi help a chyngor i chi yn y ffyrdd dilynol:
- Eich cynghori ar ffyrdd newydd o wneud rhywbeth, neu eich helpu i ail-ddysgu sgiliau a gollwyd a hefyd ddysgu sgiliau newydd
- Argymell offer arbennig a threfnu ei ddarparu os yn briodol
- Cynghori ar addasiadau ac argymell ffynonellau o help ariannol
- Rhoi gwybodaeth am asiantaethau neu wasanaethau eraill a allai eich helpu, a chysylltu gyda hwy drosoch
- Os ydych angen, gallwch eich rhoi mewn cysylltiad gyda help proffesiynol arall a ddarparwyd gan un ai sefydliadau gwirfoddol neu statudol
Sut y gallaf gael cymorth?
Os credwch y gallwn helpu, gallwch gysylltu â gweithiwr cymdeithasol drwy ysgrifennu, ffacsio, ffonio neu ymweld ag un o’n swyddfeydd. Gallech hefyd ofyn i rywun arall wneud hyn drosoch. Byddwn yn trefnu i weithiwr cymdeithasol ymweld â’ch cartref i ddweud pa help y gallem ei roi.