Mae staff ar draws pedair ysgol y sir, Ysgol Cil-y-coed, Ysgol Cas-gwent, Brenin Harri VIII ac Ysgol Gyfun Trefynwy, wedi croesawi fyfyrwyr a’i theuluoedd, wrth iddynt ddarganfod canlyniadau o’i gwaith caled ac ymroddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg: “Mae casglu canlyniadau yn aml yn gallu fod yn amser cyffroes a nerfusrwydd. Wrth ddilyn eich cyrsiau TGAU a Lefel 2, rydych wedi dangos ymrwymiad i’ch addysg. Cyn agor yr amlen, cofio; mwynhewch beth sydd i’w ddod heddiw, a siaradwch â’ch athrawon am y trywydd nesaf cywir i chi. Cymerwch amser i ddweud diolch i bawb sydd wedi eich helpu hefyd: eich teulu, gofalwyr, a holl aelodau o staff eich ysgol. Llongyfarchiadau i bob myfyriwr.”
Ychwanegodd Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, Will McLean: “Ddylai pawb sydd yn casglu eu canlyniadau heddiw fod yn falch iawn o’r hyn maent wedi cyflawni. Diolch i’r holl deuluoedd, gofalwyr a staff ysgol sydd wedi rhoi cymorth i’r dysgwyr ar eu taith.”