Skip to Main Content

Bydd y dudalen yn cael ei diweddaru ymhellach pan fydd y camau nesaf a dyddiadau’r gwaith yn hysbys. Plîs dewch yn ôl i’r tudalen yma am ddiweddariadau

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cadarnhau’n swyddogol y manylion am osod wyneb newydd ar Bont Gwy yn Nhrefynwy. Mae’r gwaith bellach wedi’i roi allan i dendr a bydd contractwr yn cael ei benodi erbyn canol mis Awst.

Y cynllun yw cau’r bont am hyd at bum wythnos o’r dyddiad disgwyliedig 16eg Hydref 2023. Bydd y bont ar gau i gerbydau am 24 awr y dydd er mwyn gallu gwneud gwaith sylweddol yn ail osod wynen y bont.

Bydd y gwaith hanfodol yn golygu tynnu 10cm o wyneb y ffordd oddi ar y bont, a adeiladwyd tua 1615 ac a gafodd ei lledu ym 1878-80. Tra bod y bont heb yr wyneb yma, ni fydd traffig arferol yn gallu croesi. Mae hyn yn sgil y newid yn y llwyth pwysau ar y strwythur unwaith y bydd wyneb yr hen ffordd yn cael ei dynnu. Pe byddem yn caniatáu i draffig arferol i groesi’r bont, byddai’n creu risg o niwed strwythurol posibl i’r bont hanesyddol.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gofyn i gontractwyr weithio 24 awr y dydd ar sifftiau er mwyn cwtogi ar y cyfnod y bydd y bont ar gau.

Mae Cyngor Sir Fynwy eisoes wedi cysylltu â’r holl wasanaethau brys ac argyfwng. Byddwn hefyd yn cysylltu gyda Chyngor Tref Trefynwy, cynghorau cyfagos, Cynghorwyr lleol, ysgolion lleol, timau gofal cymdeithasol a grwpiau cymunedol. Bydd trigolion a busnesau yn Nhrefynwy a Wyesham, gan gynnwys Ffordd Hadnock, yn derbyn gwybodaeth dros yr wythnosau nesaf er mwyn eu galluogi i gynllunio ymlaen llaw.

Dywedodd y Cyng. Dywedodd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am Briffyrdd: “Rydym yn gweithio i sicrhau bod y gwaith hanfodol hwnt ar Bont Gwy yn cael ei gynllunio i leihau’r effaith anochel ar drigolion a busnesau lleol. Rydym yn gofyn i’r contractwyr sy’n cael eu penodi i weithio sifftiau 24 awr y dydd i leihau’r amser y mae’r bont ar gau. Yn anffodus, oherwydd yr angen i dynnu cymaint o wyneb y bont, ni ellir agor y bont ar gyfer traffig arferol nes bod y gwaith wedi’i gwblhau. Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra anochel ond hoffem sicrhau trigolion a busnesau y bydd popeth yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y prosiect hwn yn cael ei gwblhau fel blaenoriaeth mewn da o bryd. Bydd cerddwyr a beicwyr sy’n dod oddi ar y beic dal yn medru croesi’r bont.”

A  bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i’r prosiect fynd rhagddo. Dilynwch gyfrif y Cyngor ar Facebook a Twitter am y datblygiadau diweddaraf.

traffic cone

Gwaith atgyweirio wyneb ffordd Pont Gwy hydref 2023Cwestiynau Cyffredin

Pryd caiff y gwaith ei wneud?

Rydym yn anelu dechrau’r gwaith ar 23 Hydref 2023 a chwblhau ar 27 Hydref 2023.

Faint o’r gloch fydd y gwaith yn dechrau a gorffen?

Bwriedir dechrau’r gwaith am 22.00 a’i gwblhau erbyn 05.00. Caiff rheoli traffig ei weithredu hyd at 45 munud naill ochr a’r llall i’r gwaith.

A gaiff y bont ei chau?

Byddwn yn gwneud y gwaith trwsio dros dro yn ystod y nos ac yn cadw un lôn ar agor gyda goleuadau traffig. Bydd yn cymryd ychydig o nosweithiau i gwblhau’r gwaith a byddwn yn gwneud popeth a fedrwn i leihau tarfu gan gadw’r cyhoedd a’r timau yn ddiogel yn ystod y gwaith.

A fyddaf yn dal i fedru croesi’r Bont?

Byddwch, bydd un lôn yn parhau’n agor dan oleuadau traffig. Bydd traffig yn cael ei oedi ond byddwn yn ymdrechu i wneud y gwaith pan mae’r traffig yn croesi’r Bont yn ysgafn iawn. Bydd goleuadau traffig a rheoli traffig stop a mynd er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr ffordd a thimau sy’n gweithio ar y bont.

Pa waith gaiff ei wneud?

Byddwn yn defnyddio HotPotholing i gynnal wyneb y ffordd a’i atal rhag gwaethygu ymhellach dros y gaeaf. Dylai hyn gadw’r ffordd yn ddiogel nes gellir gwneud y gwaith llawn o rai wyneb newydd y flwyddyn nesaf. Byddwn hefyd yn clirio detritws ac yn gwirio draeniad ar y bont i leihau unrhyw darfu pellach.

Faint sy’n cael ei wneud?

Mae’r gwaith yn bennaf ar y Bont a bydd yn ymestyn o’r A40 wrth y gylchfan ger Lidl.

Beth sy’n digwydd os caiff y gwaith ei ganslo oherwydd tywydd gwael?

Gall y tywydd gael effaith ddifrifol ar ansawdd atgyweirio wyneb ffordd. Lle mae tywydd yn debyg o effeithio ar waith byddwn yn sicrhau ein bod yn diweddaru cyfryngau cymdeithasol a byddwn yn tynnu arwyddion cau ffyrdd hyd at 36 awr ymlaen llaw.

A yw’r gwaith llawn o roi wyneb newydd ar y Bont yn dal i fynd i ddigwydd?

Ydi, rydym yn gweithio ar hyn o bryd gyda pheirianwyr ac  arbenigwyr adeiladu i gyflwyno rhaglen lawn o osod wyneb newydd.

Pam na fedrwch chi wneud y gwaith llawn o roi wyneb newydd ar yr un pryd?

Bwriad y gwaith cynnal a chadw yn hydref 2023 yw sicrhau nad yw wyneb y ffordd yn gwaethygu ymhellach dros y gaeaf ac yn cadw’r wyneb yn ddiogel ar gyfer defnyddwyr ffyrdd. Gwaith dros dro yw hwn  y gellir ei gwblhau dros nos gan gau un lôn. Bydd y rhaglen lawn o roi wyneb newydd yn golygu y bydd angen tynnu wyneb uchaf y Bont ac mae’n debyg y bydd angen cau’r ddwy lôn.  Byddwn yn sicrhau y rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf fel y gwyddom fwy am y rhaglen lawn o osod wyneb newydd.