Mae’r timau o fewn SenCom yn darparu ystod eang o gyngor a strategaethau ymyrryd yn cynnwys addysgu. Rydym yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a chaiff lefelau ein hymyriad eu cyfateb gydag anghenion newidiol plant a phobl ifanc unigol.
Cawn ein lletya gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a rydym yn gweithio yn rhanbarthol ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen gyda phlant a phobl ifanc, teuluoedd, ysgolion, colegau a lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Ein cenhadaeth yw bod yn bartner gyda theuluoedd ac ysgolion wrth gynnwys plant a phobl ifanc yn llwydddiannus yn holl fywyd yr ysgol ac i sicrhau nad yw eu taith ddysgu yn cael unrhyw rhwystrau i sicrhau cynnydd.
Mae’r Gwasanaeth yn cynnwys tri thîm dan arweinyddiaeth Pennaeth Gwasanaeth.
ComIT (Tîm Ymyriad Cyfathrebu)
Mae ComIT yn wasanaeth seiliedig mewn ysgolion sy’n gweithio mewn pump awdurdod lleol yn Ne Ddwyrain Cymru i alluogi ysgolion i adnabod a chefnogi plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu.
Mae sgiliau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn sylfaen i bob agwedd o ddysgu a datblygu, a dengys ymchwil y gall adnabod yr anghenion hyn ac ymyriad cynnar olygu gwelliant sylweddol yn neilliannau academaidd a bywyd plant a phobl ifanc.
Mae ComIT yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac mae’r tîm yn cynnwys Pennaeth Gwasanaeth, Athrawon Ymgynghori, Therapyddion Lleferydd ac Iaith a Chynorthwywyr Addysgu Arbenigol.
Mae ComIT yn darparu ystod eang o wybodaeth, codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant, yn ogystal â chymorth uniongyrchol ar gyfer disgyblion, drwy ymateb graddedig. Mae Cynorthwywyr Addysgu Arbenigol yn gweithio gyda disgyblion unigol a grwpiau bach mewn ysgolion a chefnogi staff seiliedig mewn ysgolion i ddarparu sesiynau dilyn lan yn defnyddio strategaethau dysgu ac adnoddau a argymhellir.
Sut y gwneir cais am gymorth?
Mae gan bob awdurdod lleol Arweinydd Proffesiynol ComIT sy’n ymgynghori gyda Phennaeth Gwasanaeth ComIT i ddynodi ysgolion ar gyfer ymyriad, hyfforddiant a chymorth ComIT. Caiff ceisiadau am gymorth disgyblion eu derbyn yn uniongyrchol gan ysgolion.
Os oes gennych bryderon am sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn, cysylltwch â’r ysgol a siarad gyda’r athro/athrawes dosbarth neu’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol. Gall staff ysgol ofyn am gyngor gan eu Harweinydd Proffesiynol ComIT ac anfon cais am gyngor yn uniongyrchol at ComIT.
Gwasanaeth Cymorth ar gyfer Plant a Phobl Ifanc b/Byddar
Mae’r Gwasanaeth Cymorth ar gyfer Plant a Phobl Ifanc b/Byddar yn cynorthwyo pob plentyn a pherson ifanc gyda lefel o fyddar-dod a ddynodwyd i gyflawni hyd eithaf eu potensial ac i ennill y sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd. Mae’r gwasanaeth yn cefnogi cynhwysiant llwyddiannus i leoliadau blynyddoedd cynnar ac ysgolion. Mae’r tîm yn cynnwys athrawon cymwys ar gyfer plant a phobl ifanc byddar a chynorthwywyr addysgu arbenigol.
Mae’r Gwasanaeth Cymorth ar gyfer Plant a Phobl Ifanc b/Byddar yn defnyddio Fframwaith Cymhwyster Partneriaeth Genedlaethol Amhariad Synhwyraidd, dull ar gyfer Gwasanaethau Synhwyraidd sy’n anelu i lywio gwneud penderfyniadau wrth ddyrannu cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc unigol. Mae’r cymorth gwasanaeth yn ddeinamig ac yn annog cysylltiadau agos gyda’r cartref, ysgol ac asiantaethau eraill. Anelwn feithrin galluedd mewn ysgolion i ddiwallu anghenon disgyblion a rhoi cymorth gyda ffocws mewn ymateb i’r newid yn anghenion plant a phobl ifanc.
Sut y gwneir atgyfeiriad?
Caiff mwyafrif helaeth plant eu hatgyfeirio at y gwasanaeth gan Iechyd, fodd bynnag rydym hefyd yn medru rhoi cyngor a chyfeirio rieni neu weithwyr proffesiynol sydd ag unrhyw bryderon am glyw plant neu berson ifanc. Caiff gwybodaeth ei rannu gyda’r ysgol yn dilyn atgyfeiriad. Gellir trefnu ymweliad cartref a/neu ysgol i asesu’r disgybl ac i gasglu gwybodaeth bellach.
Gwasanaeth Nam ar y Golwg
Nod y Gwasanaeth Nam ar y Golwg (VIS) yw sicrhau y caiff dewis ei gynnig i blant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr. Mae arbenigedd ac adnoddau ar gael i alluogi ysgolion i alluogi mynediad cynhwysol llawn i ddysgu. Caiff sgiliau byw annibynnol a symudedd eu haddysgu gan arbenigwyr cymhwyso VIS. Sefydlir cydweithio i gefnogi a diwallu pob angen.
Gall VIS ddarparu ystod o wasanaethau yn gysylltiedig ag anghenion unigol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda phlant a phobl ifanc gyda nam ar eu golwg neu nam amlsynhwyraidd, rhieni, ysgolion, gwasanaethau addysg/gyrfa ac asiantaethau meddygol i ddiwallu anghenion unigol fel y’u dynodir drwy’r broses asesu.
Sut y gwneir atgyfeiriad?
Rydym yn croesawu ymholiadau ac atgyfeiriadau gan unrhyw un sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc a all fod â phryderon parthed nam ar y golwg neu nam aml-synhwyraidd. I wneud atgyfeiriad i’r Gwasanaeth Nam ar y Golwg, llenwch y ffurflen atgyfeirio ar-lein: Atgyfeiriad ar gyfer asesiad gan athro/athrawes cymwys Nam ar y Golwg a/neu Nam Synhwyraidd neu gysylltu â’r gwasanaeth a gall aelod o staff eich cynorthwyo.
Ein Manylion Cyswllt
Gwasanaeth Cymorth Synhwyraidd a Chyfathrebu
Canolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
Torfaen NP4 6YB
Ffôn: 01633 648888
E-bost Sencom@torfaen.gov.uk
Penaethiaid Gwasanaeth
Roger Thurlbeck
Pennaeth Gwasanaeth SenCom
roger.thurlbeck@torfaen.gov.uk
Mary Jo Spearey a Rebecca Kelly
Pennaeth Gwasanaeth ComIT
Jo Plant
Pennaeth Gwasanaeth Cymorth ar gyfer Plant a Phobl Ifanc b/Byddar
Sarah Hughes
Pennaeth Gwasanaeth VIS
Sian Draper
Rheolwr Cymorth Busnes