Mae helpu i lunio dyfodol pobl ifanc Sir Fynwy yn hynod werth chweil a’n bwysig, ac felly, beth am wneud gwahaniaeth drwy ddod yn llywodraethwr ysgol?
Mae Cyngor Sir Fynwy ar hyn o bryd yn chwilio am ymgeiswyr ar gyfer llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn ei ysgolion, gan gynnwys ysgol newydd Brenin Harri VIII 3-19 oed yn y Fenni.
Mae ysgolion yn elwa’n aruthrol o fewnbwn strategol eu llywodraethwyr, sy’n helpu i oruchwylio llawer o agweddau o’r ysgol ac yn cyfrannu at gorff llywodraethu’r ysgol wrth godi safonau cyraeddiadau pob disgybl.
Mae dod yn llywodraethwr yn gofyn am egni ac ymrwymiad ond daw llawer o fuddion, gan gynnwys y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant a phobl ifanc wrth iddynt ddatblygu i fod y bobl orau sy’n bosib. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddefnyddio sgiliau sydd gennych eisoes tra hefyd yn gyfle i ddysgu sgiliau newydd.
Nid oes rhaid i chi gael plentyn yn yr ysgol er mwyn gwneud cais, ond dylai fod gennych ddiddordeb mewn addysg ac wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i blant a phobl ifanc.
Dylai llywodraethwyr hefyd allu dod â sgiliau sydd o fudd i’r ysgol, fel profiad busnes, gwybodaeth TG, adnoddau dynol, neu hyd yn oed sgiliau creadigol. Mae pob ysgol yn wahanol, ac felly, mae angen sgiliau gwahanol arni.
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet ar gyfer Addysg: “Mae llawer o bobl yn meddwl ar gam fod angen i chi gael cysylltiad ag ysgol benodol i ddod yn llywodraethwr, ond nid yw hyn yn wir. Yr hyn sydd ei angen ar ein hysgolion yw pobl â chymysgedd o sgiliau i helpu i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant a phobl ifanc. Mae angen cymysgedd dda o lywodraethwyr ymroddedig, brwdfrydig ac ymroddgar ar bob ysgol gan eu bod yn cyfrannu cymaint at bob ysgol a’i disgyblion. Rydym yn annog unrhyw un sy’n meddwl y gallai fod ganddynt ddiddordeb i gysylltu â ni er mwyn darganfod mwy. Gallai fod yn un o’r pethau mwyaf gwerth chweil i chi ei wneud erioed.”
Os hoffech ddysgu mwy am ddod yn llywodraethwr mewn ysgol yn eich ardal chi, e-bostiwch SharonRandall-Smith@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 07973884461 – Wendybernard@monmouthshire.gov.uk .
I wneud cais i fod yn llywodraethwr llenwch y ffurflen isod a’i dychwelyd trwy e-bost i Wendybernard@monmouthshire.gov.uk .