Mae Sir Fynwy yn cynnig gwasanaeth addysg o’r radd flaenaf. Mae ysgolion Sir Fynwy ymhlith y gorau yn y wlad gyda phedair ysgol gyfun, un ysgol anghenion arbennig a 43 ysgol gynradd sy’n cynnwys dwy ysgol gyfrwng Gymraeg. Mae’r ysgolion yn cynnwys nifer sylweddol o’r cyflawnwyr gorau. Ceir darpariaeth dda o addysg bellach ac uwch gan brifysgolion gerllaw yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bryste. Mae Coleg Gwent yn cynnig llawer o gyfleoedd addysg i oedolion.
Mae Sir Fynwy yn gorwedd yn ne-ddwyrain Cymru ac yn rhannu ffin gyda Lloegr i’r dwyrain. Mae gan y sir gefn gwlad hardd sy’n cynnwys Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn Nyffryn Gwy a rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n sir fawr sydd ag arwynebedd o 850 cilomedr sgwâr, gyda bron hanner y 87,900 o drigolion yn byw yn ei phrif drefi, sef Y Fenni, Trefynwy, Brynbuga, Cas-gwent a Chaldicot.
Sut i gyrraed yma…
Wedi’i lleoli yn ardal hygrych de-ddwyrain Cymru, fe gysylltir Sir Fynwy ar hyd traffyrdd yr M4 a’r M48 i Fryste, Llundain a Chaerdydd ac i’r gogledd ar hyd yr A449 a’r M50 i Birmingham a Manceinion. Mae meysydd awyr Caerdydd a Bryste o fewn pellter teithio hawdd, ac mae yna gysylltiadau trên cyflym i’r sir.
Anogir hefyd y rhai sy’n gweithio i Gyngor Sir Fynwy i weld ein Polisi Cyflog.