![Cllr Ian Chandler, Sam (a foster carer) and Cllr Meirion Howells](https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2023/07/MCC-Foster-Carer-Appreciation-Event-June-2023-26-1024x683.jpg)
Castell Cil-y-coed oedd y lleoliad syfrdanol ar gyfer digwyddiad gwerthfawrogi gofalwyr maeth. Roedd y digwyddiad yn dathlu’r cyfraniad enfawr y mae gofalwyr maeth yn ei wneud i fywydau babanod, plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy. Ymunodd Cynghorwyr a staff o’r tîm Gwasanaethau Plant â gofalwyr maeth o bob rhan o Sir Fynwy. Derbyniodd pawb a fynychodd fag nwyddau fel arwydd o gydnabyddiaeth. Derbyniodd gofalwyr sydd wedi cyrraedd cerrig milltir arwyddocaol dusw o flodau a thystysgrifau – mae un gofalwr wedi bod yn ofalwr maeth yn Sir Fynwy ers cyfnod anhygoel o 30 mlynedd.
Benthycodd siopau Ailddefnyddio Sir Fynwy yr hen lestri clasurol a ddefnyddiwyd ar gyfer y te prynhawn – gan ddarparu cymysgedd hardd, eclectig ar gyfer parti’r haf – a oedd nid yn unig yn arbed arian ond yn helpu osgoi taflu nwyddau sydd yn ei dro yn well i’r blaned.
![Cllr Ian Chandler at Caldicot castle](https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2023/07/MCC-Foster-Carer-Appreciation-Event-June-2023-12-1024x683.jpg)
Addurnwyd y castell gyda baneri hardd a wnaed yn garedig gan bwythwyr talentog yn TogetherWORKS yng Nghil-y-coed.
![](https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2023/07/MCC-Foster-Carer-Appreciation-Event-June-2023-8-1024x683.jpg)
Dywedodd y Cyngh. Ian Chandler, Aelod Cabinet ar gyfer Gofal Cymdeithasol: “Diolch yn fawr iawn i’n holl ofalwyr maeth – rydych chi’n gwneud gwahaniaeth aruthrol bob dydd. Mae wedi bod yn wych cwrdd â chi i gyd a chlywed eich straeon rhyfeddol. Byddem yn annog unrhyw un sydd wedi ystyried maethu i gymryd y cam hwnnw a chysylltu â’r tîm drwy ymweld â Maethu yn Sir Fynwy | Maethu Cymru Sir Fynwy.”
Ychwanegodd y Cyngh. Meirion Howells, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’r gefnogaeth y mae gofalwyr maeth yn ei darparu yn anhygoel – rydych chi i gyd yn cael eich gwerthfawrogi’n fawr. Ar ran Cyngor Sir Fynwy, ni allaf ddiolch digon i chi i gyd.”
![Cwpanau a soseri o siopau ailddefnyddio Sir Fynwy](https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2023/07/MCC-Foster-Carer-Appreciation-Event-June-2023-2-1024x683.jpg)