Skip to Main Content

Cynllun Cydraddoldeb Strategol (4)

Cynllun Cydraddoldeb Strategol (3)

 

Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol ac adroddiadau blynyddol

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn golygu bod angen i bob awdurdod cyhoeddus sydd yn gorfod cydymffurfio gyda’r dyletswyddau penodol yng Nghymru, yn gorfod cyhoeddi adroddiad cydraddoldeb blynyddol erbyn 31ain Mawrth bob blwyddyn.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn sylweddoli y gall pobl wynebu gwahaniaethu a bod dan anfantais am nifer o resymau. Mae’n ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws ein holl wasanaethau a sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb. Mae’r Ddeddf yn rhoi tegwch yng nghanol cymdeithas, yn cydgordio cyfraith gwahaniaethu, yn cryfhau’r gyfraith i gefnogi cynnydd ar gydraddoldeb a datganoli’r cyfrifoldeb am wahaniaethu i Gymru.
Mae’r Ddeddf yn cyfuno’r 116 gwahanol ddarn o ddeddfwriaeth cydraddoldeb ac yn rhoi hawl i bobl beidio cael eu trin yn llai ffafriol gan awdurdodau cyhoeddus. Y nodweddion gwarchodedig (meysydd) y mae dyletswydd cydraddoldeb cyffredinol y sector cyhoeddus yn weithredol iddynt yw:

1. Oedran
2. Anabledd
3. Statws ailbennu rhywedd
4. Beichiogrwydd a mamolaeth
5. Hil
6. Crefydd a chredo
7. Rhyw
8. Tueddfryd rhywiol
9.Priodas a Phartneriaeth Sifil

Nid yw’r Iaith Gymraeg yn rhan o’r Ddeddf Cydraddoldeb gan y daw o fewn ei ddarn penodol ei hun o ddeddfwriaeth – Mesur yr Iaith Gymraeg 2011 – ond nid yw’n ddim llai pwysig.

Yr Iaith Gymraeg

Y prif bwyntiau o ddiddordeb

Daeth y dilynol i rym ar 6 Ebrill 2011:
– Dyletswydd cydraddoldeb cyhoeddus cyffredinol (oedd yn ymestyn y dyletswyddau cyhoeddus i oedran, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gredo, ailbennu rhywedd, hefyd yn cynnwys beichiogrwydd a mamolaeth). Cafodd y cyfrifoldeb am hyn ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.

Mae angen rhoi’r ystyriaeth ddyladwy i’r angen i:

– Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon
– Hybu cyfle cyfartal
– Meithrin cysylltiadau da
– Cynnwys cyflogaeth a darpariaeth nwyddau a gwasanaethau (staff a’r cyhoedd sy’n cael mynediad i wasanaethau)
– Cynnwys 8 o’r 9 nodwedd warchodedig – nid priodas a phartneriaeth sifil.

Canllawiau manwl ar y Dyletswyddau Penodol i’w dilyn gan y Cyngor

Amcanion Cydraddoldeb a’r Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol

Diben yr amcanion a chynlluniau yw galluogi sicrhau canlyniadau cydraddoldeb mesuradwy sy’n gwella bywydau unigolion a chymunedau.

Ymgysylltu

Bydd deall amrywiaeth poblogaeth Sir Fynwy yn galluogi’r Cyngor i lunio darpariaeth yn y ffordd orau. Mae’n rhaid i’r Cyngor ymgysylltu’n ystyrlon, gan gasglu gwybodaeth berthnasol wrth gysylltu â phobl a chynnwys pobl sy’n cynrychioli diddordebau sy’n rhannu un neu fwy o’r nodweddion gwarchodedig a bod â diddordeb yn y ffordd yn cynnal ei swyddogaethau.

Asesiad o’r Effaith

Cynhelir Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb pan gaiff polisi neu ymarfer ei gynnig neu ei adolygu, ac mae’n edrych am dystiolaeth o effaith niweidiol ar bobl neu grwpiau o’r naw nodwedd gwarchodedig ynghyd â’r iaith Gymraeg. Mae’n rhaid i’r Cyngor gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar bolisïau, gweithdrefnau, swyddogaethau, cyflenwi gwasanaeth a chynigion arbedion ariannol.

Gwybodaeth ar Gydraddoldeb

Mae’n rhaid i Gynlluniau Strategol ar Gydraddoldeb, Amcanion Cydraddoldeb ac Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb, fel y’i rhagnodir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn. Daw rhan bwysig o’r wybodaeth berthnasol honno o gysylltu gyda phobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig. Dylai cysylltu ddigwydd yn ddigon buan i ddylanwadu ar osod blaenoriaethau.

Gwybodaeth ar gyfleoedd, gwahaniaethau cyflog a hyfforddiant staff

Mae’n rhaid i’r Cyngor gasglu gwybodaeth helaeth ar wybodaeth sy’n cynnwys data ar recriwtio a chadw, hyrwyddo, cyfleoedd hyfforddiant a chamau gweithredu ar gyfer cwynion a disgyblaeth ar sail flynyddol. Mae’n rhaid i wybodaeth gael ei chasglu ar gyfer pob un o’r nodweddion gwarchodedig. Mae hefyd angen data yng nghyswllt dynion a menywod a gyflogir ar rolau swyddi, cyflog a graddiad, math contract a phatrwm gweithio. Mae’n bwysig nodi na all y Cyngor ei gwneud yn ofynnol i berson a gyflogir ddatgelu gwybodaeth yng nghyswllt nodweddion gwarchodedig a dylai ddarparu categori ‘anhysbys’ neu ‘dewis peidio dweud’.

Data-Cydraddoldeb-Hyfforddiant-2020-2021

Caffaeliad

Mae’r ddyletswydd benodol hon yn weithredol pan fo cynghorau yn caffael gweithiau, nwyddau neu wasanaethau gan sefydliadau eraill ar sail ‘cytundeb perthnasol’. Mae cytundebau perthnasol yn cynnwys dyfarnu ‘contract cyhoeddus’ neu gwblhau ‘cytundeb fframwaith’ a gaiff ei reoleiddio gan y Gyfarwyddeb Sector Cyhoeddus (Cyfarwyddeb 2004/18/EC)/Rheoliadau Contractau Cyhoeddus (2006).

Mae’r ddyletswydd benodol yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau ystyried os byddai’n addas cynnwys amodau penodol yn ymwneud â’r ddyletswydd gyffredinol, yn y meini prawf dyfarnu a/neu mewn amodau yn ymwneud â pherfformio contract o’r math yma.

Adroddiadau a Chyhoeddi

Mae’n rhaid i’r Cyngor gyhoeddi Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol lle bydd yn rhoi manylion sut y dynododd ac y casglodd wybodaeth berthnasol, a defnyddio’r wybodaeth hon i ateb tair nod y ddyletswydd gyffredinol.

Bydd yr adroddiad hefyd yn cynnwys datganiad am effeithlonrwydd trefniadau’r awdurdod ar gyfer dynodi a chasglu gwybodaeth a’r rhesymau pam na chasglwyd unrhyw wybodaeth a ddynodwyd.

Mae’r chynllun cydraddoldeb strategol yn gyfraniad sylfaenol yn gwneud yng nghyswllt cyflawni ei amcanion ar gydraddoldeb.

Fel y gwelwch islaw, dynododd Cyngor Sir Fynwy bum amcan ar gydraddoldeb, sef:

1.  Gwneud cydraddoldeb yn elfen allweddol yn ein meddylfryd a phroses gwneud penderfyniadau.

2.  Bod yn gyflogydd cyfle cyfartal, gyda gweithlu sy’n ymwybodol o’r agenda cydraddoldeb ac yn ei ddeall.

3.  Dod i adnabod y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu a’u cyflogi.

4.  Diogelu a chefnogi pobl agored i niwed yn ein cymunedau.

5.  Annog pobl i ddod yn fwy egnïol a chymryd rhan wrth helpu i lunio penderfyniadau a darpariaeth gwasanaeth y Cyngor.

Dros y 4 blynedd nesaf, y bwriad yw cyflawni’r amcanion hyn drwy gefnogi set atodol o gamau gweithredu y gellir eu gweld yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol