ID Pleidleisiwr
P’un ai oes gennych ID i’w ddangos mewn gorsaf bleidleisio neu beidio, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod wedi cofrestru i bleidleisio. Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein yn www.gov.uk/cofrestruibleidleisio. Os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio, ni fyddwch yn medru pleidleisio yn yr etholiad hyd yn oed os oes gennych ddulliau derbyniol o ID.
O fis Mai 2023 ymlaen, bydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.
Angen ID Pleidleisiwr | Dim angen ID Pleidleisiwr |
Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu | Etholiadau ac Is-etholiadau Cyngor Lleol |
Etholiadau Senedd y DU | Etholiadau Senedd Cymru |
Pa ID sydd angen i bleidleiswyr ddod gyda nhw?
ID ffotograffig derbyniol | ID na chaiff ei dderbyn |
Pasbort Trwydded Yrru Ffotograffig yn cynnwys trwydded yrru dros dro Bathodyn Glas Dogfennau mewnfudo Cerdyn PASS Pas Teithio Rhatach gyda llun arno Cerdyn ID Cenedlaethol | Cerdyn Railcard ID myfyrwyr Llungopïau o ddogfennau Copïau electronig o ddogfennau (h.y. ffotograffau o ID ar ffôn) |
Nid yw’n rhaid i’r ID ffotograffig fod yn gyfredol cyhyd â’i fod y ffotograff yn dal yn edrych yn debyg i chi.
Mae rhestr lawn o ba ddulliau o ID ffotograffig sydd yn dderbyniol ar gael yma.
Beth os nad oes gennych ID ffotograffig?
Os na fedrwch ddangos un o’r dulliau ID sydd eu hangen yn y ddeddfwriaeth, gallwch wneud cais am ddogfen ID pleidleisiwr yn rhad ac am ddim, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
Gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yma
Bydd angen i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio cyn y gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Os na wnaethoch hynny yn barod, gallwch gofrestru i bleidleisio yma.
I wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn rhad am ddim, bydd angen i chi ddarparu ffotograff digidol diweddar a’ch rhif Yswiriant Gwladol.
Mae angen y rhif Yswiriant Gwladol i sicrhau mai chi yw’r person sy’n gwneud cais am y dystysgrif a chaiff ei wirio ar gronfa ddata yr Adran Gwaith a Phensiynau. Os nad yw’r rhif Yswiriant Gwladol yn cyfateb, bydd yn rhaid i bleidleiswyr roi tystiolaeth ddogfennol i gefnogi (cyfriflenni banc, biliau treth gyngor, biliau cyfleustod ac yn y blaen) cyn y gellir prosesu’r cais.
Bydd angen i bleidleiswyr gyflwyno ffotograff fel rhan o’r broses gais. Dim ond fel ffeil o ffotograff a dynnwyd yn flaenorol y gellir lanlwytho ffotograffau ac ni fedrir eu tynnu fel rhan o’r broses gais yn yr un ffordd ag ar gyfer ceisiadau eraill tebyg i basbort.
Mae hefyd reolau llym mewn deddfwriaeth am ba fath o ffotograff y gellir ei dderbyn i gymeradwyo’r cais.
Mae’n rhaid i’r ffotograff digidol fod
- yn glir ac mewn ffocws
- mewn lliw
- wedi ei dynnu yn erbyn cefndir golau plaen
- yn wirioneddol debyg i chi heb unrhyw Photoshop na hidlen
- o leiaf 600×750 picsel
- ffurf JPG, PNG neu GIF – dim llai na 50KB, dim mwy na 20MB
Mae’n rhaid i’r ffotograff fod:
- ohonoch yn wynebu ymlaen ac yn edrych yn syth ar y camera
- ohonoch chi ar ben eich hun, heb unrhyw eitemau neu bobl eraill
- ohonoch gyda mynegiant wyneb plaen
- gyda’ch llygaid ar agor ac yn weladwy, heb eu cuddio â gwallt
- heb sbectol haul, ond mae sbectol arferol yn iawn os ydych yn eu gwisgo fel arfer
- heb unrhyw orchudd pen (ar wahân i resymau crefyddol neu feddygol)
- heb ‘lygaid coch’, cysgodion ar yr wyneb, nac adlewyrchiadau
Y dyddiad cau i wneud cais am dystysgrif pleidleisiwr yw 5pm 6 diwrnod gwaith cyn diwrnod pleidleisio (ac eithrio gwyliau banc).
Caiff tystysgrifau eu hanfon yn syth at gyfeiriad cofrestredig y pleidleisiwr os nad yw’r pleidleisiwr yn gofyn iddyntei hanfon at Neuadd y Sir, Brynbuga i’w casglu am reswm penodol.
Beth os ydych eisiau pleidleisio drwy’r post?
Ar hyn o bryd nid oes angen i bleidleiswyr sy’n pleidleisio drwy’r post roi ID pan fyddant yn gwneud cais i bleidleisio drwy’r post, ond bydd angen i chi roi eich dyddiad geni a’ch llofnod ar y cais ac wrth ddychwelyd y bleidlais post i ddilysu mai chi a lenwodd y bleidlais post.
Mae’r gofynion hyn yn debyg o newid yn y dyfodol a bydd angen i bleidleiswyr roi ID wrth wneud cais am bleidlais post, ond ni chafodd dyddiad ei gadarnhau ar gyfer y newid.
Beth os oes etholiad cyfun lle mae angen ID pleidleisiwr ar gyfer un etholiad ond nid y llall?
Mae llywodraethau wedi ymrwymo i beidio cyfuno etholiadau ar yr un diwrnod ond gall fod amgylchiadau lle na fedrir osgoi hynny. Lle mae hynny’n digwydd, bydd angen i bleidleiswyr roi ID i dderbyn y ddau bapur pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio. Os cyrhaeddwch i bleidleisio heb ID, dim ond i derbyn y papur pleidleisio ar gyfer yr etholiad nad oes angen ID y bydd gennych hawl a bydd angen i chi ddychwelyd gyda ID i gael y papur/au pleidleisio arall.