Beth yw eich barn chi?
Cyflwyniad
Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2014, yn gosod dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol i ddarparu trafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol, lle mae plant a phobl ifanc yn bodloni’r meini prawf o ran cymhwystra. Bob blwyddyn, mae gofyn i Awdurdodau Lleol i adolygu eu Polisi Trafnidiaeth ac ymgynghori ar unrhyw newidiadau i’r trefniadau presennol
Er nad yw Sir Fynwy wedi ceisio gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i’r Polisi Trafnidiaeth, mae canllawiau newydd wedi’u drafftio er mwyn gwneud ein harferion gweithredol yn gliriach ac yn fwy tryloyw i rieni, dysgwyr, a rhanddeiliaid eraill. Hoffem gael eich barn ynglŷn â’n Polisi Trafnidiaeth a chanllawiau newydd fel y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn ystyried pob safbwynt
Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn helpu hysbysu’r Polisi Trafnidiaeth cyn y bydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet ym mis Medi. Bydd y polisi mabwysiedig ac unrhyw newidiadau yn dod i rym ym mis Medi 2024 ac yn berthnasol i bob dysgwr sy’n cael mynediad i drafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd rhieni’r dysgwyr sy’n cychwyn addysg gynradd neu uwchradd yn 2024 yn ymwybodol o’r meini prawf Polisi Trafnidiaeth a chymhwystra cyn cyflwyno ceisiadau ar gyfer yr ysgol a ffefrir ganddynt
Beth yw’r meini prawf cymhwysedd?
Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ddarparu trafnidiaeth o’r cartref am ddim os yw dysgwr yn byw mwy na’u pellter cerdded statudol o’r ysgol addas agosaf (2 filltir i ysgol gynradd a 3 milltir i’r ysgol uwchradd).
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi penderfynu gwella’r ddarpariaeth hon ac felly bydd yn cynnig trafnidiaeth am ddim o’r cartref i’r ysgol i’r ysgol fwyaf addas neu ysgol ddalgylch agosaf y dysgwyr, os ydynt yn byw mwy na 1.5 milltir o’u hysgol gynradd neu 2 filltir o’u hysgol uwchradd.
Wrth benderfynu a yw ysgol yn addas, byddwn yn ystyried:
- Priodoldeb oedran – mae hyn yn ymwneud â phresenoldeb y dysgwr mewn lleoliad cynradd neu Uwchradd
- Priodoldeb y gallu – bydd hyn yn ymwneud â mynychu ysgol prif ffrwd neu gyfrwng Cymraeg neu addysg ffydd.
- Gofynion addysg arbennig – os oes gan ddysgwr ddatganiad o anghenion addysg arbennig sydd felly’n pennu ysgol benodol
Wrth asesu addasrwydd, ni fyddwn yn ystyried canlyniad arolygiadau Estyn, pryderon na dewisiadau unigolion o ran ysgolion penodol na dewisiadau rhieni. Os yw eich ysgol addas agosaf yn llawn, bydd cymhwystra yn cael ei asesu’n seiliedig ar yr ysgol addas nesaf sydd ag argaeledd i dderbyn y dysgwr. Pan fo dysgwr yn gorfod newid ysgolion oherwydd achosion o fwlio, dim ond lle mae’r Gwasanaeth Lles Addysg neu’r Uned Mynediad wedi bod yn rhan o’r cynllun a chefnogi’r newid ysgolion y bydd trafnidiaeth am ddim i’r ysgol newydd yn cael ei ddarparu
Newidiadau Allweddol
1. Hierarchaeth Trafnidiaeth – Rydym yn cynnig diwygio’r polisi er mwyn adlewyrchu Strategaeth Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Llwybr Newydd. O ganlyniad, pan fydd trafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol yn cael ei ddynodi, bydd yr hierarchaeth ganlynol yn cael ei gweithredu:
i. Teithio Llesol – Bydd llwybrau cerdded yn cael eu darparu lle bynnag bo’n bosib er mwyn caniatáu dysgwr i gerdded, seiclo, neu sgŵtio i’r ysgol.
ii. Trafnidiaeth Gyhoeddus – Ar gyfer teithiau sydd yn fwy na 1.5 milltir ar gyfer disgyblion cynradd a 2 milltir ar gyfer disgyblion uwchradd, bydd darparwyr yn derbyn tocynnau tymor lle bo’n bosib er mwyn defnyddio gwasanaethau bws cyhoeddus.
iii. Trafnidiaeth Penodol o’r Cartref i’r Ysgol – Byddwn ond yn darparu hyn os nad oes trafnidiaeth bws cyhoeddus ar gael. Bydd gofyn i ddysgwyr i ddod i’r man casglu/gollwng penodol lle y mae yna lwybrau cerdded ar gael ac ni fydd yn fwy na milltir o’u cartrefi. Cyfrifoldeb y rhieni yw sicrhau bod disgyblion yn medru cyrraedd y man casglu/gollwng priodol.
iv. Trafnidiaeth gwennol – bydd hyn ond yn cael ei ddarparu os yw’r man casglu/gollwng yn fwy na milltir (mae tramwyfeydd a heolydd preifat yn cael eu hanwybyddu wrth gyfrif y pellter) neu os nad oes llwybr cerdded ar gael.
2. Darparu trafnidiaeth i Ysgolion Ffydd – Ar hyn o bryd, nid yw’r Tîm yn cynnal unrhyw wiriadau er mwyn cadarnhau a yw’r dysgwr yn mynychu ysgol ffydd yn sgil eu credoau crefyddol.
Newid arfaethedig:
Os mae cais yn cael ei wneud i ddysgwyr fynychu ysgol ffydd, bydd y Tîm Comisiynu yn cysylltu gyda’r swyddog derbyn yn yr ysgol er mwyn cadarnhau fod y dysgwyr wedi derbyn lle, yn seiliedig ar y cymhwystra ffydd. Er enghraifft, mae Ysgol Gyfun Gatholig St Joseph yn cynnwys y meini prawf canlynol:
- Plant sydd wedi eu bedyddio gan yr Eglwys Gatholig ac sydd yn derbyn gofal neu wedi derbyn gofal
- Plant sydd wedi eu bedyddio gan yr Eglwys Gatholig a’n dod o ysgolion cynradd Catholig
- Plant sydd wedi eu bedyddio gan yr Eglwys Gatholig ond heb eu dysgu mewn ysgol Gatholig
- Plant na sy’n Gatholig ond wedi eu haddysgu mewn Ysgolion Cynradd Catholig, lle y mae rhieni yn dymuno addysg Gristnogol gyda llythyr gan y Pennaeth
- Plant Cristnogol na sydd wedi eu haddysgu mewn Ysgol Gynradd Gatholig ond mae’r rhieni yn dymuno addysg Gristnogol gyda llythyr gan Weinidog Crefyddol/Arweinydd Ffydd
- Plant ffydd arall na sydd wedi eu haddysgu mewn Ysgol Gynradd Gatholig ond mae’r rhieni yn dymuno addysg Gristnogol gyda llythyr gan Weinidog Crefyddol/Arweinydd Ffydd.
Os bydd y Swyddog Derbyn yn cadarnhau fod y cais wedi ei dderbyn a’n seiliedig ar y maen prawf ffydd, yna bydd trafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol yn cael ei ddarparu yn y ffordd arferol os yw’r dysgwr yn cwrdd â’r maen prawf o ran pellter. Os nad yw’r dysgwr yn cwrdd â’r maen prawf ffydd, yna bydd y cais yn cael ei asesu yn erbyn meini prawf cymhwystra pellter i’r ysgol neu’r dalgylch agosaf. Os nad yr ysgol ffydd yw’r ysgol agosaf neu’r ysgol dalgylch, byddwn yn cymryd yn ganiataol bod rhieni wedi gwneud dewis ac NI fydd trafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol yn cael ei ddarparu.
3. Dysgwyr â phreswylfeydd deuol – Rydym yn darparu trafnidiaeth i ddysgwyr sydd â phreswylfeydd deuol os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf cymhwystra pellter a bod rhieni yn medru cynnig tystiolaeth o’r trefniadau gofalu rennir.
Newid Arfaethedig:
Os oes yna drefniadau gofalu a rennir a bod mwy nag un cartref gan y dysgwr, byddwn yn darparu trafnidiaeth i’r ddau gyfeiriad os yw’r dysgwyr yn cwrdd â’r meini prawf cymhwystra a bod y rhieni yn medru darparu tystiolaeth ddogfennol o’r trefniant. Os nad yw rhieni yn medru darparu tystiolaeth ddogfennol, bydd trefniant wythnosol sefydlog yn medru cynnig digon o dystiolaeth am y trefniadau gofalu a rennir ond ni fydd yn darparu trafnidiaeth os nad oes patrwm cyson neu os yw’r patrwm yn llai aml na phob wythnos. Os yw dysgwyr yn byw gydag un rhiant ond mewn cysylltiad cyson gyda rhiant arall, byddwn ond yn darparu trafnidiaeth i brif gyfeiriad y dysgwr.
4. Dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol – Ar hyn o bryd, mae trafnidiaeth ar gyfer y sawl na sy’n cwrdd â’r meini prawf cymhwystra ond yn cael ei ariannu os yw plentyn yn mynychu darpariaeth arbenigol neu adnodd arbenigol na sydd yn rhan o’r ysgol leol.
Newid Arfaethedig:
Bydd trafnidiaeth ar gyfer y sawl na sy’n cwrdd â’r meini prawf cymhwystra ond yn cael ei ariannu os yw plentyn yn mynychu darpariaeth arbenigol neu adnodd arbenigol sydd wedi ei gymeradwyo gan yr Awdurdod Lleol.
5. Asesu addasrwydd ysgol – Ar hyn o bryd, wrth asesu addasrwydd at ddibenion trafnidiaeth, nid yw’r Cyngor yn ystyried yr hyn y mae rhieni yn ffafrio neu unrhyw bryderon sydd gan rieni ynglŷn ag ysgol.
Newid arfaethedig:
Yn ogystalâ’r meini prawf cymhwystra sydd wedi eu nodi yn y polisi cyfredol, byddwn yn ychwanegu NA fyddwn yn anwybyddu ysgol sydd mewn mesurau arbennig wrth asesu’r ysgol agosaf neu ysgol dalgylch at ddibenion trafnidiaeth.
6. Llwybrau Cerdded Sydd Ar Gael – Ar hyn o bryd, os yw asesiad yn arwain at lwybr a ystyriwyd fel llwybr anniogel yn cael ei ail-gategoreiddio fel llwybr sydd ar gael, byddwn yn ymatal rhag darparu trafnidiaeth am ddim o ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.
Newid arfaethedig:
Os yw asesiad yn dynodi bod llwybr ar gael, byddwn yn ymatal rhag darparu trafnidiaeth am ddim o ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.
O yw dysgwr wedi dangos bod cyflwr meddygol ganddo sydd yn ei atal rhag cerdded i’r ysgol, bydd yn medru gwneud cais am drafnidiaeth disgresiynol. Os yw rhieni disgybl oedran cynradd yn medru cynnig tystiolaeth bod cyflwr meddygol ganddynt sydd yn eu hatal rhag mynd â’r plentyn i’r ysgol, mae modd iddynt wneud cais am drafnidiaeth disgresiynol.
Mae Polisi Trafnidiaeth y Cyngor ar gael fel dogfen ar wahân neu mae modd edrych ar y polisi ar wefan y Cyngor. Os hoffech dderbyn copi caled, yna cysylltwch gyda ni ar 01633 644777 neu e-bostiwch ni ar passengertransportunit@monmouthshire.gov.uk
Eich Barn
Hoffem glywed eich barn am y Polisi Trafnidiaeth arfaethedig ac yn benodol ar y newidiadau allweddol sydd yn cael eu trafod yn y ddogfen hon. Byddem yn ddiolchgar pe baech yn medru llenwi ein HOLIADUR ar-lein neu os ydych am dderbyn copi caled, maent ar gael yn ein Hybiau Cymunedol neu mae modd i chi wneud cais drwy ffonio 01633 644777 neu e-bsotio passengertransportunit@monmouthshire.gov.uk