Pythefnos Gofal Maeth eleni (15fed – 28ain Mai 2023), mae pobl ar draws Sir Fynwy wedi dod ynghyd i ddangos eu cefnogaeth i faethu. Ymunodd masnachwyr lleol, gweithwyr adeiladu, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a mwy, gydag aelod cabinet Sir Fynwy dros ofal cymdeithasol a phobl o dîm gwasanaethau plant Sir Fynwy, i ddangos pa mor bwysig yw maethu.
Mae pobl garedig, ofalgar yn cael eu hannog i ystyried maethu gyda’u hawdurdod lleol dielw fel y gall plant aros yn eu hardal leol, bod yn agos at eu ffrindiau a’u teulu, ac aros yn eu hysgol lle bynnag y bo modd. Mae hyn mor bwysig, er mwyn helpu plant a phobl ifanc i gadw eu synnwyr o hunaniaeth yn ystod cyfnod o bontio. Mae’n eu cadw mewn cysylltiad ac yn helpu i feithrin sefydlogrwydd a hyder.
Y Cynghorydd Dywedodd Tudor Thomas, yr aelod cabinet dros ofal cymdeithasol: “Pythefnos gofal maeth eleni, rydym yn cysylltu ar draws Sir Fynwy i ddangos ein cefnogaeth i faethu. Hoffwn ddiolch i’n holl ofalwyr maeth – rydych chi gyd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i blant lleol, mae eich ymroddiad yn anhygoel. Os ydych yn ystyried maethu, cysylltwch â ni neu dewch draw i un o’n digwyddiadau lleol sy’n cael eu cynnal ar draws Sir Fynwy yn ystod pythefnos gofal maeth eleni.”
Mae digwyddiadau’n cael eu cynnal ledled Sir Fynwy:
- Dydd Llun 15fed Mai, Hyb Cymunedol Cil-y-coed, 10am-1pm ac ASDA Cil-y-coed 2pm-5pm
- Dydd Mawrth 16eg Mai, Hyb Cymunedol Cas-gwent, 10am-2pm a Chanolfan Groeso Cas-gwent 2.30pm-4pm
- Dydd Iau 18fed Mai, Waitrose y Fenni, 10am-3pm.
- Llun 22ain Mai, Hyb Cymunedol Trefynwy, 10am-4pm.
- Dydd Mawrth 23ain Mai, Hyb Cymunedol Gilwern, 10am–3pm (ar gau i ginio 1pm-1.30pm)
- Dydd Mercher 24ain Mai, Hyb Cymunedol Brynbuga, 10am-2pm
- Dydd Iau 25ain Mai, Hyb Cymunedol y Fenni10am–3pm (ar gau dros ginio: 1pm-2pm), Marchnad Stryd Nos y Fenni5pm-9pm
- Dydd Sadwrn 27-28 Mai, Gŵyl Gerdd y Dyfawden, Dydd Sadwrn 10am-4pm a Dydd Sul 10am-2pm
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm: Maethu yn Sir Fynwy | Maethu Cymru Sir Fynwy