Creodd disgyblion ysgolion cynradd Llan-ffwyst Fawr a Llanfihangel Crucornau 265 o faneri a chardiau fflag yr Undeb i helpu’r trigolion i ddathlu Coroni’r Brenin Siarl III. Fe gyflwynwyd yr anrhegion caredig ynghyd â the prynhawn i bobl yn y gymuned gan dîm Prydau Sir Fynwy ar draws y sir ar ddiwrnod y coroni.
Dywedodd Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Martyn Groucutt: “Mae’r creadigrwydd a charedigrwydd y disgyblion wedi creu cymaint o argraff arnaf. Roedd pob cerdyn a phob baner yn brydferth ac rwy’n siŵr wedi dod â llawer iawn o hapusrwydd i bob preswylydd a gafodd un. Roedd te’r prynhawn yn edrych mor flasus – am syndod hyfryd. Da iawn i bawb a oedd yn rhan o hyn.”
Mae Prydau Sir Fynwy yn danfon prydau maethol i unrhyw breswylydd yn y sir sydd ag angen wedi’i asesu. Mae’r prydau yn cael eu dosbarthu’n boeth, neu wedi’u rhewi, yn dibynnu ar yr hyn y mae pob cwsmer yn dewis, mewn cerbydau sydd wedi’u haddasu’n arbennig, 365 diwrnod y flwyddyn. Bwriad y gwasanaeth hwn yw helpu pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach. Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth yn dosbarthu prydau i tua 300 o gartrefi trigolion.
Dywedodd y Cynghorydd Tudor Thomas, Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol: “Mae Prydau Sir Fynwy wir yn gwneud gwaith hynod o bwysig, ac yn helpu trigolion i gael cefnogaeth i aros yn eu cartrefi eu hunain a’u cefnogi mewn ffordd sy’n diwallu eu hanghenion unigol. Roeddwn wrth fy modd yn gweld wynebau trigolion yn gwenu wrth dderbyn y baneri a’r cardiau hyn gyda’u te wrth i ddiwrnod y Coroni agosáu. Hoffwn ychwanegu fy niolch at eu rhai nhw, i’r disgyblion yn ysgolion Llan-ffwyst Fawr a Llanfihangel Crucornau.”
I ddarganfod mwy am wasanaeth Prydau Sir Fynwy ewch i’r dudalen we https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/monmouthshire-meals/
Pryd o fwyd ‘sy’n addas i Frenin’ yn cael eu dosbarthu ar draws Sir Fynwy
Lluniau: Disgyblion yn sefyll gyda rhai o’r baneri a chardiau, y tu allan i Ysgol Gynradd Llan-ffwyst Fawr, gyda’r athrawes Victoria Bowen a dau o dîm Prydau Sir Fynwy; Rhai o dderbynwyr hapus Prydau Sir Fynwy gyda’r baneri a’r cardiau.