Rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu Brian Hood, cyn Gynghorydd a Chadeirydd Cyngor Sir Fynwy (2011-2012).
Etholwyd Brian yn gyntaf ym 1987 i Gyngor Dosbarth Trefynwy, ac ar ôl 1996, i Gyngor Sir Fynwy. Roedd Brian yn Aelod Ward ar gyfer Llanofer cyn ymddeol yn 2012, wedi 25 mlynedd o wasanaeth.
Yn ystod ei gyfnod fel Cynghorydd, roedd wedi bod yn Gadeirydd ar Iechyd Amgylcheddol a Chadeirydd Cyllid ar lefel Dosbarth. Roedd hefyd wedi chwarae rhan yn sefydlu Cymdeithas y Cynghorwyr Ceidwadol ac roedd wedi bod yn aelod o fwrdd Plaid Geidwadol Cymru.
Roedd diddordeb ac angerdd Brian yn amlwg ym maes Gwasaanethau Cymdeithasol ac roedd yn Aelod Cabinet am sawl blwyddyn gyda chyfrifoldeb am y gwasanaeth. Roedd hefyd wedi bod yn Lefarydd yr Wrthblaid, Cadeirydd Pwyllgor a Chadeirydd y Pwyllgor Dethol. Roedd Brian yn uchel ei barch ymhlith aelodau o deulu llywodraeth leol a thrwy ei waith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Symudodd Brian i Gaerfaddon yn 2018, ac fel y daethom i ddisgwyl ganddo, daeth yn Gadeirydd ar y grŵp Probus, yn rhan o ddau bwyllgor ar gyfer Sefydliad Brenhinol Llenyddol a Gwyddonol Caerfaddon ac roedd yn weithgar iawn yn Ngrŵp Materion Ewropeaidd U3A.
Roedd Brian wedi ymrwymo i helpu pobl. Ym 1986, roedd wedi helpu sefydlu Cronfa Jiwbilî Arian Tywysoges Cymru ar gyfer Helpu’r Henoed, a oedd wedi casglu mwy na £120,000 ar gyfer yr elusen. Cyn hyn, bu’n gweithio fel gwirfoddolwr gyda’r Samariaid am ddegawd. Ym 2011, dyfarnwyd MBE i Brian am ei Wasanaeth i fyd Llywodraeth Leol.
Roedd Brian yn ymroddedig, caredig a chefnogol a bydd yna golled enfawr ar ei ôl.
Dywedodd Paul Matthews, Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy ar ran y Cyngor: “Roeddwn yn hynod drist i glywed bod ein ffrind a’n cydweithiwr, Brian, wedi marw. Roedd yn ŵr anhygoel, yn hollol ymroddedig i helpu’r sawl sydd yn llai ffodus. Roedd yn wleidydd grymus, yn uchel ei barch gan bawb ac yn ffrind ac yn fentor i nifer a bydd yna golled enfawr ar ei ôl.”
Bydd angladd Brian Hood yn cael ei gynnal yn Abaty Caerfaddon ar ddydd Mawrth 18fed Ebrill am 2.30pm.