Cafodd y miliynau o bobl a gollodd eu bywydau yn yr Holocost yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac mewn hil-laddiadau ar draws y byd, eu cofio gyda digwyddiad coffa arbennig yn Hyb Cil-y-coed. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Gyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed ddydd Iau 26ain Ionawr, cyn digwyddiad blynyddol Diwrnod Cofio’r Holocost ar ddydd Gwener 27ain Ionawr.
Roedd aelodau’r cyhoedd, aelodau cabinet Cyngor Sir Fynwy a chydweithwyr i gyd yn bresennol i glywed straeon goroeswyr, gwrando ar ddarlleniadau ac i gynnau canhwyllau er cof y dioddefwyr.
Eleni, y thema ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost yw ‘Pobl Gyffredin’. Roedd pobl gyffredin yn gyflawnwyr, yn wylwyr, yn achubwyr, yn dystion – ac roedd pobl gyffredin yn ddioddefwyr. Llofruddiwyd dros chwe miliwn o Iddewon yn ystod yr Holocost dan arweiniad y Natsïaid, gyda llawer o rai eraill yn colli eu bywydau mewn hil-laddiadau yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
Mae’r digwyddiad coffáu hwn wedi cael ei gynnal ers nifer o flynyddoedd ac wedi parhau yn ystod pandemig COVID-19, gyda’r digwyddiad yn cael ei gynnal trwy ei ffrydio’n fyw ar-lein.
Mynychodd yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Catherine Fookes, a dywedodd: “Roedd yn anrhydedd mawr siarad yn nigwyddiad Cofio’r Holocost yng Nghil-y-coed, i glywed straeon a chynnau cannwyll er anrhydedd i’r rhai a fu farw. Mae’r Holocost, pan lofruddiwyd dros chwe miliwn o Iddewon, a hil-laddiadau dilynol ledled y byd, wedi gweld y golled bywyd mwyaf sylweddol yn ein hanes. Rhaid i ni beidio ag anghofio dioddefwyr y gweithredoedd erchyll hyn, ac mae’n rhaid i ni gyd fynd ati i herio rhagfarn, sefyll ein tir yn erbyn casineb, a siarad allan yn erbyn erledigaeth lle bynnag y gwelwn ni hynny.”