Gofynnir i drigolion rannu eu barn ynghylch a ddylai Cyngor Sir Fynwy godi premiymau treth gyngor i bobl sy’n berchen ar anheddau gwag hirdymor ac ail gartrefi yn y sir.
Mae ymgynghoriad bellach wedi cael ei lansio yn dilyn cytundeb gan Gabinet y cyngor i archwilio hyn. Mae’r ddeddfwriaeth, sydd wedi bod mewn grym ers 2017, yn caniatáu i gynghorau yng Nghymru godi premiymau o hyd at 300% (100% cyn Ebrill 2023) ar ben cyfradd safonol treth gyngor, ar anheddau gwag hirdymor ac ail gartrefi.
Daw’r cynigion wrth i Sir Fynwy ar hyn o bryd wynebu lefelau uchel iawn o ddigartrefedd gyda swm helaeth o gyllid y Cyngor wedi’i neilltuo ar gyfer darparu llety brys tymor byr. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, gall y cyngor gadw unrhyw refeniw ychwanegol a gynhyrchir o’r premiymau hyn er mwyn helpu i ddefnyddio eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd er mwyn darparu cartrefi diogel a fforddiadwy ac i helpu i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol. Gydag amcan y premiymau i ddarparu cymhelliant i annog meddiannaeth.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd Sirol Rachel Garrick: “O ystyried yr heriau ariannol digynsail rydym yn eu hwynebu fel awdurdod lleol, mae archwilio pob ffrwd refeniw bosibl yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw ein gwasanaethau’n cael eu heffeithio’n ddifrifol yn y blynyddoedd i ddod. Er nad yw Cyngor Sir Fynwy wedi ceisio cyflwyno’r premiymau hyn ar y dreth gyngor yn y gorffennol, mae’n rhaid i ni droi pob carreg wrth i ni lywio’r heriau ariannol yr ydym yn wynebu. Mae barn y cyhoedd yn rhan annatod o’n penderfyniadau a dyn a pam mae’r ymgynghoriad hwn yn bwysig. Os oes gennych farn ynglŷn â’r cynnig hwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Garrick: “Mae’r manteision posib i’r premiymau arfaethedig hyn ar dreth gyngor yn ddeublyg, gan y gallai annog perchnogion anheddau gwag i ddod â nhw’n ôl i ddefnydd, gan helpu i fynd i’r afael â’r prinder tai presennol.”
Pe bai’n cael ei gyflwyno, y cynharaf gallai’r cyngor godi’r premiymau treth gyngor fyddai o’r 1af Ebrill 2024 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25. Os caiff ei gymeradwyo bydd y cyngor yn ceisio hysbysu pob talwr trethi a fydd yn cael eu heffeithio gan y premiymau, er mwyn rhoi cymaint o rybudd o flaen llaw iddynt â phosib o’r newid.
Cewch wybodaeth bellach am y cynigion yma: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ymgynghoriad-premiymaur-dreth-gyngor-ar-gyfer-anheddau-gwag-ac-ail-gartrefi/. Rhaid cyflwyno barn erbyn 16eg Chwefror drwy gwblhau ffurflen ar-lein sydd i’w gweld ar y dudalen hon o wefan y cyngor.