Skip to Main Content

Mae’r argyfwng costau byw yn heriol i bawb – gan gynnwys y Cyngor. Mae Cyngor Sir Fynwy yn wynebu pwysau digynsail o ran costau, sef £26m. Mae costau ynni, chwyddiant a chynnydd mewn prisiau, codiadau mewn cyflog a chyfraddau llog cynyddol oll yn ffactorau sydd yn cyfrannu at hyn. Bydd y Cabinet yn cwrdd ar 18fed Ionawr er mwyn cytuno ar strategaeth i fynd i’r afael gyda’r pwysau yma. Mae hyn yn cynnwys hwb o ran cyllid gan Lywodraeth Cymru sydd yn uwch na’r disgwyl, newidiadau mewn gwasanaeth, effeithlonrwydd staffio, cynnydd mewn ffioedd a chynnydd yn lefel  y dreth gyngor. Bydd cymunedau Sir Fynwy yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar y newidiadau arfaethedig yma yn ystod proses ymgynghori agored a fydd yn dechrau ar ddydd Mercher 18fed Ionawr ac ar agor tan 12pm ar ddydd  Iau 16eg Chwefror.

Dywedodd y Cyngh. Mary Ann Brocklesby, yr Arweinydd: “Yn y gyllideb hon, rydym yn benderfynol ein bod yn gwneud pob dim posib er mwyn cefnogi ein cymunedau yn ystod yr argyfwng costau byw, a hynny er yr heriau ariannol y mae’r Cyngor yn wynebu.   

“Mae hon yn gyllideb sydd dal yn cyflenwi ein blaenoriaethau craidd. Mae ein cynllun Cymunedau a Chorfforaethol drafft wedi ei lywio gan gynigion y gyllideb. Mae cynigion y gyllideb yn cynnig y dechrau gorau posib i blant mewn bywyd, gyda mwy o arian i ysgolion a’r sawl sydd angen gwasanaethau a chymorth ychwanegol. Byddwn yn parhau i gefnogi ein trigolion hŷn i gadw eu hannibyniaeth. Byddwn yn sicrhau bod y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau yn cael eu cefnogi tra’n amddiffyn ein canolfannau hamdden a’n llyfrgelloedd, gan ein bod yn cydnabod y rôl bwysig y maent yn chwarae o ran llesiant ein cymunedau. Mae ein hymrwymiad i foderneiddio ein hysgolion yn parhau a’n bwriad i weithio tuag at Sir Fynwy carbon isel drwy fuddsoddi’n barhaus mewn llwybrau seiclo, ffyrdd a llwybrau cerdded a band eang gwell. 

“Mae hefyd yn gyllideb sydd yn edrych tua’r dyfodol ac yn gosod y Cyngor mewn sefyllfa fel bod modd i ni fynd i’r afael gyda rhai o’r heriau mwyaf sydd yn wynebu ein sir a’n cymdeithas yn fwy cyffredinol. Ein ffocws yw gwneud Sir Fynwy yn:

Lle teg i fyw lle y mae effaith anghydraddoldeb a thlodi wedi eu lliniaru

Lle gwyrdd i fyw a gweithio gyda llai o allyriadau carbon, yn gwneud cyfraniad positif i fynd i’r afael gyda’r argyfwng hinsawdd a natur

Lle ffyniannus ac uchelgeisiol, yn llawn gobaith a mentergarwch

Lle diogel i fyw lle y mae pobl yn meddu ar gartref a chymuned a’n teimlo’n ddiogel

Lle sydd wedi ei gysylltu, lle y mae pobl yn teimlo’n rhan o gymuned, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cysylltu ag eraill

Lle sy’n dysgu, gyda phawb yn cael y cyfle i wireddu eu potensial.”

Dywedodd y Cyngh. Rachel Garrick, Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau: “Rydym yn bles iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr heriau sydd yn wynebu awdurdodau lleol yng Nghymru. Er nad yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn arian digonol gan Lywodraeth y DU er mwyn medru mynd i’r afael gyda’r heriau ariannol sydd yn wynebu gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd, mae cynnydd o 9.3% yn ein setliad i’w groesawu ac yn fwy na’r hyn yr oeddwn yn disgwyl – mae’n golygu ein bod wedi medru amddiffyn gwasanaethau pwysig yn well, fel cyllidebau gofal cymdeithasol ac ysgolion.

“Mae Sir Fynwy yn parhau i ddibynnu ar incwm y dreth gyngor yn fwy nag unrhyw Gyngor arall yng Nghymru. Yn sgil natur yr her, mae’n anochel y  bydd hyn yn cynyddu, er ar raddfa sy’n llai na chwyddiant. Rydym yn cynnig cynnydd yn y dreth gyngor o  5.95% ar gyfer 2023-2024. Mae’r dreth gyngor yn ffynhonnell allweddol o incwm sydd yn caniatáu’r Cyngor i gynnal gwasaanethau a diwallu anghenion trigolion, yn enwedig y sawl sydd yn fwyaf bregus.

“Mae’r cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, sydd yn cynnig cymorth i’r sawl sydd ar incwm isel neu’r sawl sydd yn derbyn budd-daliadau, dal ar gael ac mae aelwydydd person sengl hefyd yn gymwys i dderbyn gostyngiad o 25% ar y dreth gyngor.  

“Bydd y rhan fwyaf o ffioedd yn cynyddu. Bydd  ffioedd ar gyfer gofal cartref a  gofal preswyl dal yn ddibynnol ar brawf modd ac wedi eu cyfyngu er mwyn cyfyngu’r effaith ar y sawl sydd ar yr incwm isaf. 

“Mae’r Cyngor yn parhau i arwain drwy esiampl drwy ymrwymo i dalu’r  Cyflog Byw Gwirioneddol sydd wedi gosod gan y  Living Wage Foundation. Y bwriad ar gyfer 2023-2024 yw ymestyn hyn i gynnwys yr holl leoliadau hynny lle y mae gofal wedi ei gomisiynu. Dylai pawb sydd yn cael eu talu i ddarparu gofal  yn Sir Fynwy gael eu talu’n deg.”

Rydym yn annog trigolion i rannu eu barn ar y cynigion sydd ar gael yma Cyllideb 2023-2024 – Monmouthshire

Bydd digwyddiadau ymgynghori wyneb i wyneb yn cael eu cynnal ar hyd a lles Sir Fynwy fel a ganlyn:

Dydd Llun 23ain Ionawr, 6pm. Hyb Cil-y-coed, Ffordd Woodstock Way, Cil-y-coed

Dydd Mawrth 24th Ionawr, 6pm. Hyb Cas-gwent, Manor Way, Cas-gwent

Dydd Mercher, 25ain Ionawr, 6pm. Hyb Brynbuga, 35 Stryd Maryport, Brynbuga

Dydd Iau, 26ain Ionawr, 6pm. Neuadd y Sir, Trefynwy

Dydd Mawrth 31ain Ionawr, 6pm. Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru, Magwyr

Dydd Mawrth 7fed Chwefror, 6pm, Hyb y Fenni, y Fenni

At hyn, mae dwy sesiwn ar-lein yn cael eu cynnal ar y gyllideb ar ddydd Iau, 2ail Chwefror  am 10ama 6pm. Mae modd cofrestru er mwyn cymryd rhan yn y digwyddiadau rhithwir drwy fynd i’r dudalen ar y gyllideb ar wefan y Cyngor a byddwn yn danfon e-bost i chi gyda dolen er mwyn ymuno gyda’r digwyddiad. Mae modd i chi gyflwyno eich cwestiynau o flaen llaw neu yn ystod y sesiwn. Bydd y sesiynau ar-lein yn cael eu lanlwytho i’r wefan fel bod modd eu gwylio ar iddynt gael eu cynnal, a hynny ar gyfer y sawl na sydd yn medru mynychu’r sesiynau. 

Fel rhan o’r broses ymgynghori, sydd ar agor tan 12pm ar 16eg Chwefror 2023, mae trigolion hefyd yn cael cyfle i rannu eu barn  drwy gyfrwng adborth a fydd ar gael gyda’r cynigion – Cyllideb 2023-2024 – Monmouthshire

“Mae’r rhain yn gynigion drafft ac rydym am gael gwybod beth yw eich barn. Felly, ewch darw i’n gwefan o’r 18fed Ionawr er mwyn cael dweud eich dweud,” ychwanegodd y Cyngh. Brocklesby.

Tags: ,