Dechreuwyd y Cookalong Clwb gan Angharad a’i merch Pip. Mae’n ymwneud gydag ymrymuso plant o bob oedran yn y gegin, yn rhoi hyder iddynt i lunio prydau bwyd blasus ar gyfer eu teuluoedd. Mae’r clwb yn gweithio gydag ysgolion a grwpiau lleol ar-lein a sesiynau wyneb i wyneb.
Danteithion cartref i gŵn a chathod
Mae’r rhain yn gwneud anrhegion gwych i’ch anifeiliaid anwes neu ffrindiau a pherthnasau sydd â chŵn neu gathod. Holwch am alergedd.
Cynhwysion:
- 1.5 llwy fwrdd olew llysiau
- 2 llwy fwrdd menyn cnau daear
- 2 llwy fwrdd mêl
- ¾ llwy de powdr pobi
- 1 wy
- 250g blawd – cyflawn, blawd reis – beth bynnag sydd gennych. Hefyd flawd ychwanegol ar gyfer rholio allan.
Dull:
- Ffwrn ar 180 C
- Rhoi’r holl gynhwysion mewn bowlen gymysgu fawr.
- Pwnno’r toes gyda’ch dwylo am ychydig a’i rolio allan ar wyneb gydag ychydig o flawd arno i tua 1m o drwch. Torri gyda thorrwr bisgedi a rhoi ar yr hambwrdd pobi gyda leinin o bapur pobi.
- Pobi am 10 munud nes bod y darnau wedi caledu.
Teisennau Bach Nadoligaidd
Rydym wedi twyllo ac a phrynu teisennau bach ar gyfer eu defnyddio, mae hyn i gyd am hwyl wrth addurno!
I addurno:
- 200g menyn di-halen
- 400g siwgr eisin
- 1 llwy de rhin fanila
- 1 llwy de lliw bwyd gwyrdd
- Smarties bach/m&m
- Eisin ysgrifennu du
- Sêr bach ar gyfer addurno
Offer:
Bowlen gymysgu, clorian, llwy bren neu gymysgydd llaw, bag a phig eisin, dwylo glân a ffedog.
Rhoi’r menyn a’r siwgr mewn bowlen a chymysgu’n dda iawn. Ychwanegu rhin fanila a lliw bwyd. Rhoi mewn bag eisin ac addurno neu ddefnyddio llwy a chyllell wastad.
Wedi’i goginio gartref Rocky Road
Cynhwysion:
Holwch am alergedd!
- 150g menyn ynghyd ag ychydig ar gyfer y tun
- 3 llwy fwrdd siwgr caster
- 3 llwy fwrdd mêl, syrup melyn neu syrup masarn
- 4 llwy de powdr coco
- 225g bisgedi wedi’u malu’n fân (beth bynnag sydd gennych)
- Llond llaw o ffrwythau sych, Smarties neu falws melys
- 110g siocled llaeth
- 110g siocled tywyll
Offer:
Bowlen y gellir ei rhoi mewn microdon, sosban, tun 15-20m (wedi’i leinio gyda phapur pobi gyda menyn arno), llwy bren, sbatwla, llwy fwrdd, llwy de, priciau coctel a ffedog a dwylo glân.
Dull:
- Leinio’r tun gyda phapur pobi a rhoi menyn arno.
- Mewn sosban ychwanegu’r menyn, siwgr, mêl, powdr coco a thoddi dros wres isel.
- Pan fydd wedi toddi, ychwanegu’r bisgedi a’r ffrwythau sych. Cymysgu’n dda.
- Llwyo i’r tun wedi ei baratoi a phwyso lawr gyda chefn llwy.
- Mewn bowlenni ar wahân, ychwanegu’r siocled llaeth neu dywyll a thoddi’n araf yn y microdon dros wres isel, gan wirio bob 20 eiliad.
- Unwaith y bydd wedi toddi, tywallt y siocled dros y cymysgedd bisgedi ac ychwanegu topin.
- Rhoi yn yr oergell am ychydig oriau ac yna torri’n ofalus i sgwariau bach. Mae’n gwneud anrhegion gwych yn ogystal â thrît i chi.
Salad Ysgewyll Fietnam
Dim yn hoff iawn o ysgewyll ond yn hoffi ychydig o sbeis – mae hwn yn salad gwych ar gyfer cyw iâr, stêc ac efallai y salad Gŵyl San Steffan gorau ERIOED gyda sbarion twrci – bydd yn sicr yn dod â dŵr i’ch dannedd!
Cynhwysion:
- 1 ewyn garlleg, wedi torri’n fân
- 1-2 chillies coch Thai – TWYM!
- 1 llwy fwrdd siwgr – siwgr brown, siwgr palmwydd, siwgr gwyn – beth bynnag sydd gennych
- 1.5 llwy fwrdd finegr reis neu finegr gwin gwyn
- 1.5 llwy de saws pysgod
- Sudd leim
- 1.5 llwy fwrdd olew llysiau
- Wynwyn bach neu 2-3 sialot wedi tafellu’n fân
- 200g ysgewyll wedi tafellu’n fân
- 1 moryn mawr wedi tafellu’n fân
- Pecyn coriander – gwahanu dail a choesau a thorri’r coesau yn fân
- Pecyn mintys
- Pinsiaid o halen a phupur
- 100g cnau cashew neu gnau daear wedi’u torri’n fras
- Sbarion cyw iâr neu dwrci
Offer:
Cyllell finiog, bwrdd torri, llwy fwrdd, bowlen fach a bowlen fawr ar gyfer gweini
Dull
- Torri’r garlleg a chillies coch yn fân a’u rhoi mewn bowlen fach.
- Ychwanegu siwgr, saws pysgod, finegr, olew a sudd leim a chymysgu.
- Cymysgu’r wynwyn i mewn a gadael i fwydo am 20-30 munud.
- Ysgewyll – tynnu dail allanol ac yna dafellu’n fân ac ychwanegu i fowlen fâs fawr gyda phinsiad o halen a phapur
- Gorchuddio gyda’r cymysgedd garlleg/ chilli, ychwanegu dail coriander, dail mintys a chnau wedi torri’n fras a chymysgu. Gweini gyda thafelli cyw iâr, twrci, stêc a mwynhau.
Gadewch y chillies mas os nad ydych yn hoffi bwyd twym.
E-bost: hello@thecookalongclwb.co.uk.
Facebook a Twitter – TheCookalongClwb
Youtube: @thecookalongclwb2449