Mae Cyngor Sir Fynwy yn annog pawb i fod yn garedig i’r amgylchedd y Nadolig hwn.
Mae rhoddion ar gael o’r siopau elusennol lleol neu yn siopau Ailddefnyddio’r Cyngor sydd yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Llan-ffwyst a Five Lanes. Mae syniadau am roddion yn y siopau Ailddefnyddio yn cynnwys beiciau, llyfrau, lluniau, teganau, potiau a chompost (yn berffaith ar gyfer hadau blodau sydd wedi gosod mewn potiau), a llawer iawn mwy. Mae modd i chi hefyd sicrhau pethau ar gyfer croesawu pobl atoch dros y Nadolig gyda byrddau, cadeiriau, gwydrau a llestri bwrdd hefyd ar gael.
Dywedodd y Cyngh. Catrin Maby, aelod cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae gwneud newidiadau bychain ar y cyd yn medru gwneud gwahaniaeth go iawn i’r amgylchedd. Mae dewis ymatal rhag defnyddio eitemau na sy’n medru cael eu hailgylchu fel papur lapio a thinsel yn medru gwneud gwahaniaeth er enghraifft.
“Mae ein timau yn y canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn ffantastig. Gyda chymorth y sawl sydd yn ymweld â’r safleoedd, maent yn medru achub eitemau da rhag cael eu taflu i’r sgipiau gwastraff. Mae’r rhain wedyn yn cael eu gwerthu yn y siopau Ailddefnyddio ar y safle am bunt neu ddwy fel arfer, sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio er mwyn ariannu’r gwaith o blannu coed yn y Sir. Felly, pan fyddwch yn prynu rhywbeth ‘ail-law’ fel rhodd, rydych hefyd yn helpu ni fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn mwynhau’r syniadau sydd yn cael eu rhannu er mwyn ein helpu ni gyd fwynhau Nadolig hapus a gwyrdd.”
Dilynwch @MonmouthshireCC ar Facebook, Twitter ac Instagram er mwyn gweld y darnau newydd o gyngor bob dydd fel rhan o’r ‘calendr Adfent Nadolig gwyrdd’, er mwyn i ni ddathlu’r ŵyl a mynd i’r afael gyda’r argyfwng hinsawdd ar yr un pryd.
Mae amseroedd agor y Siopau Ail-ddefnyddio ar gael yma https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/y-siop/