Dechrau yn yr Ysgol Uwchradd Dechrau yn yr Ysgol Uwchradd Erthygl wedi ei diweddaru: 15th Tachwedd 2024 Mae dechrau yn yr ysgol uwchradd yn un o’r digwyddiadau pwysicaf ym mywyd eich plentyn. Fel rhiant/gofalwr, mae’n sicr y bydd gennych ystod eang o gwestiynau am y symud yma. Os yw’ch plentyn yn mynychu blwyddyn 6 mewn ysgol gynradd ar hyn o bryd, bydd angen i chi wneud cais iddi drosglwyddo i ysgol uwchradd ym mis Medi 2025.Mae’r broses dderbyn ar gyfer plant sy’n ceisio cael eu derbyn i’r ysgol uwchradd ar gyfer Medi 2025 bellach ar gau. Rhoddir amserlen y cylch derbyn islaw: Dyddiad y mae pecynnau cais ar gael: 25 Medi 2024 Dyddiad cau ceisiadau: 13 Tachwedd 2024 am 5pm Dyddiad cynnig: 3 Mawrth 2025 Sut ydw i’n gwneud cais yn hwyr? Rhaid i geisiadau gael eu cwblhau gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn dan sylw Gellir gwneud ceisiadau drwy gysylltu â ni ar y manylion isod a gofyn am Gais Hwyr. Nodiadau cyfarwyddyd i’ch helpu i gwblhau’ch cais ar-lein Fe’ch cynghorir hefyd i ddarllen Llyfryn Dechrau Ysgol 2025-26 E-bost: accesstolearning@monmouthshire.gov.uk Ffôn: 01633 644508 Cyfeiriad: Cyngor Sir Fynwy Neuadd y Sir Y Rhadyr, Brynbuga Sir Fynwy NP15 1GA