Mae’r gwaith o godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd codi baw eich ci yn parhau gan Gyngor Sir Fynwy. Mae wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Tref a Chymuned ar draws y sir, ynghyd â Chadwch Gymru’n Daclus i geisio lleihau faint o faw cŵn sy’n cael ei adael ar y llawr.
Roedd timau allan yng Nglannau Hafren, Cil-y-coed a Rogiet ddydd Iau 10fed Tachwedd, yn cwrdd â pherchnogion cyfrifol anifeiliaid anwes i drafod pwysigrwydd codi baw ar ôl anifeiliaid anwes mewn mannau cyhoeddus.
Mae cwynion am faw cŵn mewn ardaloedd cyhoeddus fel arfer yn cynyddu pan fydd y clociau yn newid pan fydd y boreau a’r nosweithiau yn dywyllach, felly gyda hyn mewn golwg, roedd tîm Iechyd yr Amgylchedd eisiau gwneud yn siŵr bod y neges gywir yn cael ei derbyn gan berchnogion cŵn mewn ardaloedd preswyl.

Dechreuodd y gwaith o godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd codi baw eich ci ym Mhorth Sgiwed ddydd Iau diwethaf gyda thaith gerdded o amgylch y pentref ac i lawr i Sudbrook ar hyd y llwybr arfordirol, lle gwelwyd baw ci gwaethaf y dydd. Ymunodd Cynghorydd Cymunedol Porth Sgiwed, Carol Carne, a Chynghorydd Sir Fynwy, Lisa Dymock, â’r tîm.
Y lle nesaf yr ymwelwyd ag ef oedd Cil-y-coed, lle cafodd arwyddion ymgyrchu newydd eu gosod ym Mharc Cas Troggi a Chaeau Chwarae’r Brenin Sior V. Roedd pob perchennog cŵn yn cario bagiau baw, ac yn barod i lanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes.
Aeth y grŵp ymlaen i Barc Cefn Gwlad Rogiet, ac yna o gwmpas parciau Magwyr, lle mae llawer o gwynion wedi bod am faw cŵn ar ardaloedd gwyrdd y gymuned. Gosodwyd arwyddion a lluniwyd stensiliau ar balmentydd i atgoffa perchnogion cŵn i wneud y peth cywir a chyfrifol.

Er bod naw o bob deg o berchnogion cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes mewn ardaloedd cyhoeddus, mae’r un allan o ddeg, nad ydynt yn ymddwyn yn gyfrifol, yn cael effaith negyddol ar fannau gwyrdd a pharciau. Mae baw cŵn yn parhau i fod yn un o’r materion amgylcheddol mwyaf aml a dadleuol, gyda’r ffocws ar gaeau chwaraeon ac ardaloedd lle mae plant yn chwarae. Mae’r rhain yn ardaloedd lle gall plant, pobl ifanc ac oedolion ddod i gysylltiad yn fwyaf hawdd â baw cŵn sy’n cael eu gadael ar y ddaear, ac mae’n hanfodol bod pobl yn codi baw cŵn i’w atal rhag dod yn broblem iechyd cyhoeddus. Gellir cael gwared ar fagiau gwastraff cŵn mewn biniau sbwriel neu faw cŵn wrth gerdded eich anifail anwes, neu gartref yn eich gwastraff bag du cyffredinol.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Paul Griffiths, Aelod Cabinet Sir Fynwy sy’n gyfrifol am iechyd yr amgylchedd: “Tra bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol, dim ond ychydig sydd ddim yn codi’r baw ar ôl eu hanifeiliaid anwes ac felly’n creu problem. Does dim esgus i beidio cario bagiau baw ac, fel mae’r arwyddion yn nodi ‘Mae’n bosib defnyddio pob bin’. Os bydd pob perchennog cŵn yn gwneud hyn, bydd yn helpu i gadw’r rhai sy’n defnyddio’n mannau gwyrdd a’n caeau chwaraeon – a llawer ohonynt yn blant – yn ddiogel. Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r holl berchnogion cŵn cyfrifol sydd eisoes yn codi ar ôl eu hanifeiliaid anwes.”

Mae awdurdodau lleol a Heddlu Gwent â’r grym i roi hysbysiadau cosb benodedig, ac mae perchnogion sy’n methu â chodi baw eu hanifeiliaid anwes yn wynebu dirwy o £75 yn y fan a’r lle. Os yw’r person yn gwrthod talu, a’r achos yn cael ei gymryd i’r llys, mae’n bosib y bydd y troseddwr yn cael dirwy o hyd at £1,000.
Gallwch roi gwybod am ddigwyddiadau o faw cŵn drwy ap Fy Sir Fynwy, a bydd y Cyngor Sir yn dilyn i fyny ar hynny. Gellir rhoi gwybod yn hawdd i’r cyngor am berchnogion cŵn sy’n methu â chodi baw eu hanifeiliaid ar-lein yma: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/sbwriel-a-baw-cyn/