Skip to Main Content

Mae gwasanaethau wedi’u cynnal ar draws Sir Fynwy i goffáu lluoedd arfog milwrol a sifil Prydain a’r Gymanwlad yn rhyfeloedd byd yr 20fed ganrif ac yn y gwrthdaro dilynol.

I nodi’r 11eg awr o’r 11eg diwrnod, arweiniodd Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Laura Wright, Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby a’r Caplan, y Parchedig Sally Ingle-Gillis, ddau funud o dawelwch yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga.

Cynhaliwyd amryw o wasanaethau eraill ar ddydd Gwener 11 Tachwedd ar draws Sir Fynwy.  Roedd y rhain yn cynnwys tanio canonau am 11am yng Nghastell Trefynwy ac yng Nghastell y Fenni, i nodi cychwyn a therfynu’r ddau funud o dawelwch. Bu Eglwys Llanarfan hefyd yn cynnal gwasanaeth yn yr Eglwys Goffa Rhyfel.

Cynhaliodd tref Cil-y-coed ddau funud o dawelwch yng nghanol y dref ddydd Gwener, gan barhau â’r gwasanaethau cofio i ddydd Sul. Cynhaliodd Eglwys y Santes Fair wasanaeth am 11:30am, ac yna gwasanaeth machlud 4pm wrth Gofeb y Groes.

Ar ddydd Sul 13 Tachwedd, cynhaliwyd amrywiaeth o orymdeithiau a gwasanaethau dinesig.  Yng Nghas-gwent, cynhaliwyd gorymdaith o dan arweiniad Marsial y Parêd drwy’r dref i’r Gofeb Rhyfel, lle gosodwyd torchau. Dilynwyd hyn gan wasanaeth yn Eglwys Priordy’r Santes Fair.  Cynhaliwyd seremoni gosod torch a gwasanaeth hefyd fel gweithred goffa ym Mrynbuga.  Talodd y gymuned leol eu parch at y rhai a fu farw yn y Fenni gyda gwasanaeth yn Neuadd y Dref, ac yna gorymdaith dan arweiniad Band y Fwrdeistref.  Ymunodd cynghorwyr tref, y Lleng Prydeinig Brenhinol, y Sgowtiaid, y Brownis, y Cadetiaid Awyr ac aelodau eraill o’r gymuned â nhw.

Roedd Trefynwy yn nodi Sul y Cofio drwy gael gorymdaith o wasanaethu personél milwrol, cyn-filwyr, cynghorwyr, yn ogystal â nifer o wasanaethau cyhoeddus a grwpiau cymunedol.  Ffurfiodd yr orymdaith ar y coblau y tu allan i Neuadd y Sir o 10:15am ac yna gorymdeithio tuag at Sgwâr Sant Iago am 10:40am. Cynhaliwyd y gwasanaeth wrth y Gofeb Ryfel, dan arweiniad y Parchedig Jonathan Greaves.

Cofiodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd y Cyngor, bawb a gollodd eu bywydau. “Heddiw, ynghyd â’r pabi coch, rwy’n gwisgo pabi du gyda balchder, y pabi sy’n ein hatgoffa ni am faint o bobl o liw ar draws y byd sydd wedi ymladd gyda ni â balchder. 25 mlynedd yn ôl, gan sefyll wrth lan y bedd ynghyd â’r Uchel Gomisiynydd Prydeinig yng ngwlad Camerŵn yng Ngorllewin Affrica, clywais y geiriau yr wyf ar fin eu darllen am y tro cyntaf: Pan ewch adref, dywedwch wrthynt amdanom a dywedwch; ar gyfer eich yfory, fe roddon ni ein heddiw.”

Ychwanegodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Laura Wright: “Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gofio’r aberth a wnaed gan ein rhagflaenwyr, nid yn unig y rhai yr ydym yn eu coffáu yma, ond yn anffodus cymaint mwy sydd wedi gwasanaethu eu gwlad gan ein gwarchod rhag perygl a chadw’r heddwch mewn sawl rhan o’r byd cythryblus hwn. Rhaid trysori eu cof, neu yn ofer bydd eu haberth personol nhw.”

Fe wnaeth Arweinydd y Cyngor, Mary Ann Brocklesby osod torch wrth y gofeb Rhyfel yng Nghas-gwent ar ran Cyngor Sir Fynwy.  Ynghyd â hi roedd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Paul Griffiths a Dirprwy Arglwydd Raglaw Gwent.  Gosododd Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Laura Wright, dorch wrth y senotaff yn y Fenni ar ran Cyngor Sir Fynwy, yng nghwmni’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch, y Cynghorydd Tudor Thomas, a Dirprwy Arglwydd Raglaw Gwent.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith a’r prosiectau i gefnogi cydweithwyr yn y lluoedd arfog yn Sir Fynwy ar gael yn: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/y-lluoedd-arfog/.