Mae tîm Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Fynwy newydd lansio ei Apêl Dymuniadau’r Nadolig. Mae’r apêl flynyddol hon yn helpu plant a phobl ifanc mwyaf bregus y sir drwy roi anrheg Nadolig iddynt na fyddent o bosib wedi derbyn fel arall. Gyda’r Argyfwng Costau Byw presennol, bydd mwy a mwy o bobl yn cael trafferth yn rhoi anrhegion Nadolig i’w plant eleni sydd yn golygu bod yr apêl eleni hyd yn oed yn fwy pwysig.
Roedd yr apêl Dymuniadau Nadolig wedi casglu mwy na £5,000 y llynedd a oedd wedi ei wario ar roi anrhegion a thalebau i oddeutu 300 o blant a phobl ifanc yn y sir, ac mae’r apêl yn ceisio casglu arian eleni eto. Bydd pob ceiniog sydd yn cael ei chasglu yn cael ei defnyddio ar gyfer cardiau a thalebau rhodd ar gyfer y plant mwyaf anghenus, plant sy’n derbyn gofal a’r sawl sydd yn gadael gofal (rhwng 18 a 25 mlwydd oed), sef y rhai hynny sydd ond yn meddu ar ychydig o gymorth teuluol neu dim cymorth o gwbl. Rydym yn gobeithio y bydd haelioni nifer o bobl yn medru help dwyn ychydig o hwyl i’r sawl sydd angen hyn fwyaf.
Mae’r apêl hefyd yn derbyn rhoddion o anrhegion, gemau a nwyddau ar gyfer yr ystafell ymolchi (i’r sawl sydd yn gadael gofal), a bydd hyn oll yn cael ei rannu gyda’r plant a phobl ifanc gan y timau Gwaith Cymdeithasol i Blant wrth i ni ddynesu at y Nadolig. Os hoffech brynu rhodd ar gyfer plentyn bregus neu unigolyn sy’n gadael gofal, yna ewch â hyn i un o’r Hybiau Cymunedol (y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Trefynwy a Brynbuga) erbyn 18fed Rhagfyr.
Dywedodd y Cynghorydd Tudor Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Diogelu: “Mae eleni wedi bod yn anodd i deuluoedd ar draws Sir Fynwy, a thra ein bod yn parhau i wynebu’r heriau sydd yn rhan o’r Argyfwng Costau Byw, mae tymor yr ŵyl yn gyfle i ni feddwl am blant a phobl ifanc bregus. Mae’r apêl Dymuniadau Nadolig eleni mor bwysig ag erioed ac mae’n gyfle gwych i sicrhau bod y bobl ifanc yma yn teimlo mor arbennig ag unrhyw un arall. Rwy’n gwybod ei fod yn amser anodd ond rwyf hefyd yn gwybod bod cymuned Sir Fynwy mor hael a thosturiol, ac felly, os ydych yn medru cynnig rhodd fach neu anrheg, yna ewch ati i wneud hyn. Diolch o galon ar ran pawb sydd yn rhan o’r apêl yma.”
Byddem yn gwerthfawrogi pob math o rodd, mawr a bach. Ewch i :www.monmouthshire.gov.uk/christmas-wishes/a chliciwch ar GWASANAETHAU a dewis ‘Dymuniadau’r Nadolig’ neu ffoniwch 01633 644644 ac opsiwn 5 am help.