Skip to Main Content

Roedd bron i 300 o bobl wedi mynychu dwy ffair swyddi fis diwethaf a drefnwyd gan dîm Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Sir Fynwy. Roedd y ddwy ffair, a gynhaliwyd yn y Fenni a Chil-y-coed, wedi cynnig cymorth i’r sawl sydd yn chwilio am swyddi ac yn ystyried ail-hyfforddi, ynghyd â’n dangos y cyfleoedd sydd ar gael ymhlith cyflogwyr lleol.

Mae’r ffeiriau yma yn adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau llai a gynhaliwyd yn gynharach eleni a’n ceisio helpu trigolion lleol  i ddod o hyd i waith a hyfforddiant ychwanegol yn ystod yr argyfwng costau byw presennol. Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae llawer o bobl am uwchsgilio neu newid gyrfaoedd ond nid ydynt yn gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael gan tîm Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Sir Fynwy.  

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau Cynhwysol a Byw: “Mae tîm Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud gwaith gwych yn creu’r digwyddiadau pwysig yma yn Sir Fynwy. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae mor bwysig bod cymorth a chanllawiau ar gael, ac yn y ffeiriau swyddi yma, mae pobl yn medru dod o hyd i’r help sydd angen arnynt er mwyn gwneud y cam cyntaf yn y cyfeiriad cywir.”

Bydd tîm Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Sir Fynwy yn cynnal dwy ffair swyddi arall ym Mawrth 2023 a dwy arall ym Medi 2023. 

Os ydych yn byw yn Sir Fynwy ac yn chwilio am gefnogaeth i ddychwelyd i’r byd gwaith neu uwchsgilio tra yn y gwaith, yna edrychwch ar ein gwefan Cyflogaeth a Sgiliau er mwyn gweld pa gefnogaeth sydd ar gael:www.mccemployskills.co.uk