Beth yw Penderfynwch Chi | Sir Fynwy?
Mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) a’i bartneriaid wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen grant cyllideb cyfranogol dros dair blynedd. Bydd y rhaglen yn clustnodi grantiau i brosiectau cymunedol sydd yn ffocysu ar fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd a datblygu cymunedau cryf ar hyd a lled Sir Fynwy.
Mae cyllidebu cyfranogol yn rhoi’r cyfrifoldeb i aelodau’r gymuned i glustnodi cyllid i brosiectau sydd yn elwa’r gymuned drwy fabwysiadu systemau pleidleisio democrataidd. Yn sgil y ffordd newydd hyn o weithio, byddwn yn rhoi cynnig ar nifer i ddulliau pleidleisio er mwyn dysgu o’r broses a’n gweithio gyda chi i ddatblygu strategaeth hirdymor.
Bydd £10,000 ar gael i bob un o’r chwe phrif dref a’r ardaloedd cyfagos o fewn Sir Fynwy.
Pwy Sy’n Medru Gwneud Cais?
Rydych yn medru gwneud cais os ydych yn grŵp cymunedol, yn grŵp nid-er-elw, yn Gyngor Tref neu Gymuned, yn fwrdd Iechyd neu’n ysgol. Os nad oes cyfrif banc gennych, rydym yn medru siarad gyda chi ynglŷn â gweithio gyda mudiad arall sydd yn medru prynu pethau ar eich rhan.
Rydym yn chwilio am brosiectau sydd yn:
- • Adeiladu cymunedau ffyniannus, cynhwysol
- • Ffocysu ar unigrwydd ac arwahanrwydd