Neilltuo lle ar gyfer bedd
Gall fod yn bosibl neilltuo llain benodol mewn mynwent. Gan fod hwn yn faes mor gymhleth, cysylltwch â’r siop un stop berthnasol (Y Fenni, Cas-gwent neu Drefynwy) am arweiniad pellach.
Rhoi carreg fedd neu gofeb ar fedd
Mae’n rhaid cael saer maen cofebau cofrestredig i osod cerrig beddi a chofebau yn ein mynwentydd. Yn ogystal, mae’n rhaid cael saer maen coffa cofrestredig i wneud arysgrifau ychwanegol ar gerrig beddi a chofebau.
Bydd caniatâd i unrhyw fath o garreg fedd a chofeb o fewn y dimensiynau uchafswm penodol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar gyfer seiri maen a hoffai gofrestru gyda’r cyngor.
Maint y cerrig beddi a chofebau
Bydd caniatâd i gofebau o fewn y dimensiynau uchafswm a ganlyn:
Plinth – 914mm x 508mm x 102mm (uwchben y ddaear)
Carreg fedd – 1068mm x 762mm x 153mm
Gall eitemau ychwanegol fod yn dderbyniol (ar gais), ond bydd rhaid iddynt gael eu lleoli yn gyfan gwbl o fewn cwrtil y plinth.
Dylai tabledi o fewn yr ardal gweddillion amlosgedig fod yn 457mm x 457mm x 51mm. Gall eitemau ychwanegol fod yn dderbyniol (ar gais), ond byddant yn cael eu cyfyngu o ran nifer i un ffiol (neu gynhwysydd blodau) ac o ran maint i rywbeth a fydd yn ffitio o fewn ciwb 203mm. Os cytunir ar y cais, mae’n rhaid i’r ffiol gael ei gosod tuag at ben uchaf y dabled ac yn cael ei chanoli.
Cynllun cofrestru seiri maen coffa
Gyda golwg ar gyrraedd safonau uchel mewn gosod cofebau, mae’r cyngor wedi sefydlu cynllun cofrestru. Mae’n rhaid i seiri maen coffa fod yn aelodau o’r cynllun hwn cyn gwneud unrhyw waith ar gerrig beddi a chofebau ym mynwentydd y cyngor.
Sut i gofrestru fel saer maen coffa
Os ydych yn dymuno cofrestru fel saer maen coffa, bydd angen i chi argraffu a llenwi’r ffurflen gais a’r holiadur iechyd a diogelwch a’u dychwelyd i siop un stop Cas-gwent.
Bydd eich cais yn cael ei asesu wedyn a byddwch yn cael gwybod am y canlyniad. Os cewch eich derbyn, bydd eich manylion yn cael eu hychwanegu at ein rhestr o seiri maen coffa cofrestredig.
Ni ddylech wneud unrhyw waith mewn mynwent y cyngor hyd nes i chi gael gwybod eich bod yn gofrestredig o dan gynllun y cyngor a’ch bod wedi derbyn trwydded ar gyfer y gwaith sydd i’w wneud.
Diogelwch cerrig beddi a chofebau
Gyda golwg ar sicrhau diogelwch defnyddwyr ei fynwentydd, mae’r cyngor wedi sefydlu rhaglen barhaus i brofi diogelwch cerrig beddi a chofebau mewn mynwentydd.
Pryderu am garreg fedd?
Os ydych yn pryderu am ddiogelwch neu sefydlogrwydd carreg fedd, cysylltwch â’r siop un stop berthnasol lle bydd swyddog yn gallu rhoi cyngor i chi.
Gweithdrefnau profi
Mae’r gweithdrefnau ar gyfer profi diogelwch cerrig beddi wedi’u cymeradwyo gan gabinet y cyngor.