Daeth preswylwyr ac ysgolion cynradd y Fenni ynghyd yng Ngerddi Linda Vista ddydd Mercher 25 Mai i blannu coeden Cerddinen i goffau Jiwbilî Platinwm y Frenhines, gan sicrhau fod gan y dref gofeb hirdymor o’r digwyddiad hanesyddol hwn, gyda phob ysgol yn derbyn ei choeden ei hun a gyfrannwyd drwy garedigrwydd Canolfan Arddio y Fenni.
Wrth i baratoadau ddechrau ym mhob rhan o’r wlad i nodi Jiwbilî Platinwm y Frenhines, roedd pobl leol y Fenni yn awyddus i ddechrau ar y dathliadau ddydd Mercher 25 Mai. Wedi’i drefnu gan Bryn Yemm, dechreuodd dathliadau Jiwbilî dydd Mercher diolch i Ganolfan Arddio y Fenni oedd wedi cyfrannu 10 coeden Sorbus Aucuparias frodorol, a gaiff hefyd eu galw yn goed Cerddinen, i’r digwyddiad gan gyflwyno eu coeden eu hunain i ysgolion cynradd lleol i fynd â hi yn ôl i’w hysgolion.
Derbyniodd cynrychiolwyr o Ysgolion Cynradd Cantref, Deri View, Gilwern, Llan-ffwyst, Llanfihangel, Llandeilo Bertholau, Cross Ash, Y Forwyn Fair a Mihangel Sant ac Ysgol Gymraeg y Fenni i gyd eu coeden Cerddinen ei hunain i gael eu phlannu ar safle eu hysgol a fydd yn symbol parhaus o’r Jiwbilî Platinwm.
Parhaodd y dathliadau gyda grŵp dawns lleol Dance Attack yn perfformio i fersiwn fyw Bryn Yemm o “Jubilee Party”.
Dywedodd Tony Konieczny, Maer Tref y Fenni: “Diolch enfawr i Ganolfan Arddio y Fenni am gyfrannu’r coed Cerddinen gwych hyn fydd yn coffau Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Ar gyfer y plant sydd yma heddiw, efallai nad yw’r coed hyn yn ymddangos yn arwyddocaol nawr ond flwyddyn ar ôl blwyddyn byddwch yn eu gweld yn blodeuo a thyfu fel y tyfwch chithau. Gobeithiaf y bydd llawer o bobl yn cael pleser ohonynt.”
Meddai’r Cyng. Laura Wright, Cyngor Sir Fynwy: “Gobeithiaf y gallwn i gyd ystyried plannu coed yn ein gerddi, gan ganolbwyntio ar gynyddu’r canopi coed trefol a gwneud yr hyn a fedrwn i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn y broses. Hoffwn hefyd ddweud diolch yn fawr i’r plant am eu hymdrechion a’r perfformiadau dawns anhygoel a welsom yn nigwyddiad Jiwbilî heddiw.
“Rwy’n credu y bydd y dathliad hwn yn rhoi rhywbeth arbennig i ni ei gofio pan edrychwn ar y coed hyn, a gweld pa mor dda y maent yn tyfu, gan ein hatgoffa am y digwyddiad Jiwbilî rhyfeddol hwn mewn blynyddoedd i ddod.”
Daw plannu’r coed ar adeg gwych o’r flwyddyn, gan fod y Cyngor yn hyrwyddo ymgyrch Natur Wyllt sy’n anelu gadael i ardaloedd o laswelltir dyfu, gan alluogi blodau gwyllt i flodeuo am fwy o amser, a rhoi cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a phryfed peillio fel gwenyn a gloÿnnod byw.
Bydd amgylcheddau sy’n cefnogi amrywiaeth ehangach o fywyd gwyllt o fudd i iechyd a lles meddwl preswylwyr, gan eu hannog i roi amser i fwynhau ein gofodau gwyrdd, gan adael i ni weld blodau, pryfed a bywyd gwyllt arall yn teimlo’n gartrefol yn y mannau gwyrdd naturiol yma.