Mae pob un ohonom yn gweld graffiti ar ryw adeg neu’i gilydd wrth i ni fynd o gwmpas ein busnes yn y gymuned. Geiriau, lliwiau, patrymau a siapiau ydyw sy’n cael eu tynnu neu grafu ar adeiladau, tanffyrdd, trenau, bysiau ac arwynebau eraill. Mae’n cael ei wneud heb ganiatâd, ac mae yn erbyn y gyfraith.
Sut mae’n brifo ein cymuned?
Mae graffiti’n cynyddu ofn troseddau yn y gymuned gan ei fod yn cyhoeddi neges fod neb yn malio.
Gan fod glanhau graffiti yn ddrud, mae’n cymryd arian oddi wrth ein gwasanaethau eraill. Mae graffiti’n costio’r DU dros £1 biliwn pob blwyddyn.
Mae graffiti’n cynyddu ofn troseddau ymysg cyhoedd yr ardal honno. Gall leihau gwerth eiddo ac weithiau arwain at ostyngiad mewn twristiaid a busnesau.
Yn aml, gall graffiti weithredu fel magnet a denu rhagor o graffiti i ardal.
Beth yw’r ffordd orau i’w atal?
Y ffordd fwyaf effeithiol yw cael gwared ag ef mor brydlon ag y bo modd. Mae astudiaethau wedi canfod bod tramgwyddwyr yn rhoi’r gorau iddo yn y pen draw os ydych yn gwaredu graffiti.
Yr hyn i’w wneud os ydych yn gweld graffiti
Os ydych yn gweld graffiti, gadewch i ni wybod fel y gallwn wneud trefniadau i’w waredu.
I roi gwybod am graffiti, gallwch: